Amgueddfa Blog

Hafan y Blog

Y 30ain o Fedi yw Diwrnod Cenedlaethol Treftadaeth Chwaraeon, cyfle i ddathlu treftadaeth chwaraeon ac i ddysgu ac ysbrydoli.

Eleni, fe wnaeth Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth gydag Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru, ddathlu ein treftadaeth chwaraeon gydag arddangosfa newydd, Cymru…Olympaidd. Lansiwyd yr arddangosfa ym mis Gorffennaf i gyd fynd a Gemau Olympaidd Tokyo 2020, ac mae’n cynnwys gwrthrychau rai o brif Olympiaid a Pharalympiaid Cymru. Mae’r arddangosfa yn gyfle i ddod i adnabod rhai o bencampwyr athletau Cymru gan gynnwys; Paulo Radmilovic, Olympiad mwyaf llwyddiannus Cymru; Irene Steer, y fenyw Gymreig gyntaf i ennill medal aur; a Lynn Davies, enillydd y fedal aur yn y naid hir yng Ngemau Olympaidd Tokyo 1964.

I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Treftadaeth Chwaraeon, dyma flas o rai o uchafbwyntiau'r arddangosfa:

Gwisg Nofio Irene Steer

Gwisg nofio Olympaidd Irene Steer, 1912.
Gwisg nofio Olympaidd Irene Steer, 1912.
Olympiad, Irene Steer.
Olympiad, Irene Steer.

Dyma’r wisg nofio a wisgodd Irene Steer i gystadlu yn Gemau Olympaidd 1912 yn Stockholm.

Merch i rieni dosbarth gweithiol oedd Irene Steer a ddechreuodd ei gyrfa nofio cystadleuol ar Lyn Parc y Rhath yn ei thref enedigol, Caerdydd. Enillodd y fedal aur yn Stockholm ym 1912 fel nofwraig cymal olaf tîm nofio dull rhydd 4x100 llath Prydain a dorrodd record y byd.

Roedd rhaid i aelodau’r tîm nofio hynny wisgo siwtiau rasio tebyg i'r rhai a wisgwyd gan ddynion mewn cystadlaethau Olympaidd. Mae’r wisg wedi'i gwneud o sidan, a byddai athletwyr benywaidd yn aml yn gwisgo dillad isaf o dan, gan fod y defnydd yn dryloyw pan yn wlyb.

Yng Ngemau Tokyo eleni, enillwyd y fedal aur gyntaf yn y pwll gan Gymro neu Gymraes ers Irene Steer yn 1912, gyda Matt Richards a Calum Jarvis yn ennill medalau aur gyda’r fuddugoliaeth wych yn y ras gyfnewid rydd 4x200m.

Bathodyn Gemau Olympaidd Paulo Radmilovic

Bathodyn Gemau Olympaidd Paulo Radmilovic, 1920.
Bathodyn Gemau Olympaidd Paulo Radmilovic, 1920.
Olympiad, Paulo Radmilovic
Olympiad, Paulo Radmilovic

Dyma'r bathodyn a wisgodd y nofiwr a'r chwaraewr polo dŵr, Paulo Radmilovic ar ei siwt nofio wrth gystadlu yng Ngemau Olympaidd Antwerp 1920. Daeth ei funud fawr yn y Gemau Olympaidd hyn pan sgoriodd y gôl a enillodd y fedal aur yn erbyn Gwlad Belg, dair munud cyn y chwiban olaf.

Cafodd ei eni yng Nghaerdydd ar 5 Mawrth 1886. Croatiad oedd ei dad a symudodd i Gymru yn y 1860au, a ganwyd ei fam yng Nghymru i rieni Gwyddelig.

Paulo Radmilovic yw Olympiad gorau Cymru erioed, gyda phedair medal aur o chwe ymddangosiad Olympaidd. Am 80 mlynedd bu hefyd yn Olympiad fwyaf llwyddiannus Prydain, nes i'r rhwyfwr Syr Steve Redgrave ennill pumed fedal aur yng Ngemau 2000 yn Sydney.

Medal Aur Lynn Davies

Medal Aur Olympaidd Lynn Davies, 1964.
Medal Aur Olympaidd Lynn Davies, 1964.
Olympiad, Lynn Davies.
Olympiad, Lynn Davies.

I’w gweld yn yr arddangosfa mae medal aur Lynn ‘The Leap’ Davies. Ym 1964 neidiodd Lynn Davies i’r llyfrau hanes, gan serennu ac ennill aur Olympaidd yn y naid hir yn Tokyo. Doedd dim disgwyl iddo gyrraedd y ffeinal, heb sôn am ennill y teitl. Ond roedd yr amodau gwlyb a gwyntog yn ffafrio’r Cymro’n fwy na’r deiliad, Ralph Boston. Enillodd Davies gyda naid o 8.07m, ac ef yw’r unig Gymro i ennill medal aur Olympaidd athletau unigol.

Arddangosfa Cymru…Olympaidd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Arddangosfa Cymru…Olympaidd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Gellir gweld hefyd yn yr arddangosfa, un o dair medal aur Olympaidd Richard Meade, un o fawrion y byd marchogaeth, medalau arian ac efydd y nofiwr David Davies, siaced tîm Olympaidd y deifiwr Robert Morgan, a medalau gystadlu’r athletwyr paralympiad, John Gronow a David Winters.

Mae gan athletwyr Cymreig draddodiad hir o lwyddo yn y Gemau Olympaidd a Paralympaidd, ac nid oedd eleni'n eithriad. Enillodd athletwyr Cymru yn Tokyo, 22 o fedalau - wyth yn y Gemau Olympaidd a 14 yn y Gemau Paralympaidd.

Mae Olympiaid Cymru wedi gwneud cyfraniad aruthrol i chwaraeon, bywyd a diwylliant y genedl, ac maen nhw'n parhau i ysbrydoli cenedlaethau o athletwyr i ddilyn ôl eu traed.

Bydd y gwrthrychau i'w gweld tan Ionawr 2022. Mae mynediad am ddim i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, ond rhaid i bob ymwelydd archebu tocyn ymlaen llaw drwy'r wefan.

Fflur Morse

Uwch Guradur Bywyd Diwylliannol
Gweld Proffil

Gadael sylw