Croeso i Sgrinwyna 2022 Bernice Parker, 11 Mawrth 2022 Mae gennym tua 250 o ddefaid magu yn y praidd eleni, felly rydyn ni’n disgwyl dros 350 o ŵyn – mae'n amser prysur iawn i'r tîm sy'n gofalu amdanynt. Pan fydd pethau'n prysuro yn y sied ŵyna bydd staff profiadol wrth law ddydd a nos. Felly, sut beth yw genedigaeth arferol? Mae ŵyna yn fusnes anwadal tu hwnt felly gall amrywio dipyn, ond dyma rai o'r pethau allwch chi ddisgwyl eu gweld: Esgor: Bag dŵr (yn gyflawn neu wedi byrstio) a llysnafedd yn hongian o gefn y ddafad cyn yr enedigaeth. Pâr o draed yn dod allan o ben ôl y ddafad. Ar ddechrau'r esgor, bydd y ddafad yn codi ac yn eistedd yn ddi-baid ac yn pawennu'r llawr. Wrth i'r esgoriad ddatblygu, bydd hi fel arfer yn eistedd er mwyn gwthio'r oen allan ac yna'n aros ar y llawr. Bydd ei chyfyngiadau yn dod yn gryfach a bydd yn amlwg ei bod yn gweithio'n galed. Mae'n bosibl y bydd hi'n taflu ei phen yn ôl, bydd ei llygaid ar agor led y pen a bydd yn dangos ei gweflau. Mae hyn i gyd yn arferol ac yn golygu, gobeithio, ei bod hi ar fin geni'r oen. Gall esgoriad arferol gymryd unrhyw beth rhwng 30 munud a sawl awr. Mae tîm y fferm yn ceisio cadw'r sied yn dawel ac yn heddychlon er mwyn i'r defaid allu geni'n naturiol ble bynnag posibl. Fydd y tîm ond yn ymyrryd er mwyn diogelu lles y ddafad a'i hwyn. Genedigaeth: Os yw'r ddafad wedi geni'r oen yn naturiol, mae'n bosibl y byddant yn gorwedd yn llonydd am gyfnod wedi'r geni. Mae wedi bod yn waith caled i'r ddau, a'r cyfan sydd angen i'r oen wneud ar hyn o bryd yw anadlu. Yn ddelfrydol, heb y bag (y sach amnotig) dros ei ben. Yn rhan o'r enedigaeth, bydd y bag fel arfer yn torri ac yn cael ei dynnu yn ôl oddi ar ffroenau'r oen. Weithiau bydd y ffermwr yn neidio mewn yn gyflym i helpu'r broses hon. Pan fydd oen yn cael ei eni, bydd llysnafedd drosto, darnau o'r bag a weithiau bydd ychydig o waed hefyd. Mae hyn i gyd yn arferol – bydd y ddafad yn llyfu'r oen yn lân, a bydd hyn yn cynhesu'r oen ac yn ei annog i anadlu. Weithiau mae stwff melyn neu wyrdd ar yr oen. 'Meconiwm' yw hwn, sef pwpw cyntaf yr oen, sydd wedi digwydd cyn neu yn ystod y geni. Oen sydd newydd ei eni: Mae oen sydd newydd ei eni yn aml yn symud yn afreolus neu'n crynu. Mae hyn yn arferol, ac yn ffordd dda o ddal sylw'r ddafad. Mae hefyd yn ei helpu i baratoi i sefyll i fyny a cherdded o fewn munudau o gael ei eni. Os ydych chi'n darged i anifail ysglyfaethus, rhaid i chi gael eich geni yn barod i redeg (neu guddio mewn den/nyth). Bydd oen hefyd yn symud yn afreolus/tisian droeon wrth iddo glirio'r hylifau geni o'i drwyn a'i lwnc. Weithiau bydd y bugail yn gwthio gwelltyn i drwyn yr oen i'w helpu i beswch neu disian. Bydd hefyd yn mwytho'r oen neu'n plygu un o'i goesau blaen fel pe bai'n reidio beic er mwyn gwneud iddo beswch/anadlu. Os na fydd hyn yn gweithio, weithiau bydd yn siglo'r oen gerfydd ei goesau ôl. Mae hyn yn defnyddio grym allgyrchol i helpu i glirio llwnc yr oen er mwyn iddo ddechrau anadlu. Rydym yn chwistrellu diheintydd ar fotwm bol oen sydd newydd ei eni. Mae hyn yn helpu atal yr oen rhag dal haint o lawr y sied trwy'r llinyn bogail sydd newydd gael ei dorri. Symud o'r sied ŵyna i'r gorlan ofal: Wedi bwrw, bydd y ddafad a’i hŵyn yn cael eu symud allan o'r sied ŵyna. Bydd y ffermwyr yn cario'r ŵyn gerfydd eu coesau: Achos mae ganddyn nhw goesau sydd lawer cryfach na choesau babis, ac maen nhw'n ysgafnach hefyd. Mae'n osgoi rhoi arogl person dros yr oen – mae hyn yn bwysig am ei fod yn ceisio creu perthynas â'i fam. Y ffordd fwyaf caredig o symud dafad sydd newydd eni oen yw ei chael i ddilyn yr oen o'r sied. Greddf dafad yw rhedeg i ffwrdd wrth bobl, nid eu dilyn. Ond bydd fel arfer yn dilyn ei hoen newydd pan fydd y ffermwr yn ei ddal fel hyn. Mae pob teulu newydd yn cael mynd i gorlan fach i ddod i nabod ei gilydd a bod yn ddiogel rhag prysurdeb y sied ŵyna. Y defaid sydd fel arfer yn llai parod i ddilyn eu hŵyn (neu'r rhai sy'n rhedeg i ffwrdd ar ôl geni oen) yw'r defaid blwydd oed sydd fel arfer yn ŵyna am y tro cyntaf. Mae'r defaid blwydd oed hefyd dipyn yn fwy gwyllt, gan nad ydynt wedi arfer â bod yn rhan o'r praidd. Mae'n bosibl y gwelwch chi'r ffermwyr yn defnyddio techneg wahanol iawn i symud y defaid yma a'u hwyn: Byddan nhw'n symud yr ŵyn gyntaf, er mwyn gwneud yn siŵr na fyddan nhw'n cael eu dal dan draed y defaid. Yna byddan nhw'n dal y ddafad – sydd dal yn gallu rhedeg yn gyflym er ei bod hi newydd eni oen! Byddan nhw'n cerdded y defaid hyn allan gyda'r coesau dros ysgwyddau'r ddafad. Dyma'r ffordd orau o reoli'r ddafad a'i stopio rhag rhedeg i ffwrdd. (Dydyn nhw DDIM yn eistedd ar eu pennau). Yna bydd y teulu'n dod 'nôl at ei gilydd yn y gorlan fach lle bydd pawb yn setlo'n gyflym wrth i'r ddafad ddod i arfer â bod yn fam. Mae llawer o wybodaeth am ein defaid a chyfnod ŵyna yn ein blogiau blaenorol: Cwestiynau Cyffredin Sgrinwyna Ydych chi’n gorwedd yn gyfforddus?