Hafan y Blog

Croeso i Sgrinwyna 2022

Bernice Parker, 11 Mawrth 2022

Mae gennym tua 250 o ddefaid magu yn y praidd eleni, felly rydyn ni’n disgwyl dros 350 o ŵyn – mae'n amser prysur iawn i'r tîm sy'n gofalu amdanynt. Pan fydd pethau'n prysuro yn y sied ŵyna bydd staff profiadol wrth law ddydd a nos. 

Felly, sut beth yw genedigaeth arferol? Mae ŵyna yn fusnes anwadal tu hwnt felly gall amrywio dipyn, ond dyma rai o'r pethau allwch chi ddisgwyl eu gweld: 

Esgor: 

  • Bag dŵr (yn gyflawn neu wedi byrstio) a llysnafedd yn hongian o gefn y ddafad cyn yr enedigaeth. 

  • Pâr o draed yn dod allan o ben ôl y ddafad. 

  • Ar ddechrau'r esgor, bydd y ddafad yn codi ac yn eistedd yn ddi-baid ac yn pawennu'r llawr. 

  • Wrth i'r esgoriad ddatblygu, bydd hi fel arfer yn eistedd er mwyn gwthio'r oen allan ac yna'n aros ar y llawr. Bydd ei chyfyngiadau yn dod yn gryfach a bydd yn amlwg ei bod yn gweithio'n galed.  

  • Mae'n bosibl y bydd hi'n taflu ei phen yn ôl, bydd ei llygaid ar agor led y pen a bydd yn dangos ei gweflau. Mae hyn i gyd yn arferol ac yn golygu, gobeithio, ei bod hi ar fin geni'r oen. 

  • Gall esgoriad arferol gymryd unrhyw beth rhwng 30 munud a sawl awr. Mae tîm y fferm yn ceisio cadw'r sied yn dawel ac yn heddychlon er mwyn i'r defaid allu geni'n naturiol ble bynnag posibl. Fydd y tîm ond yn ymyrryd er mwyn diogelu lles y ddafad a'i hwyn. 

Genedigaeth: 

  • Os yw'r ddafad wedi geni'r oen yn naturiol, mae'n bosibl y byddant yn gorwedd yn llonydd am gyfnod wedi'r geni. Mae wedi bod yn waith caled i'r ddau, a'r cyfan sydd angen i'r oen wneud ar hyn o bryd yw anadlu. Yn ddelfrydol, heb y bag (y sach amnotig) dros ei ben. 

  • Yn rhan o'r enedigaeth, bydd y bag fel arfer yn torri ac yn cael ei dynnu yn ôl oddi ar ffroenau'r oen. Weithiau bydd y ffermwr yn neidio mewn yn gyflym i helpu'r broses hon. 

  • Pan fydd oen yn cael ei eni, bydd llysnafedd drosto, darnau o'r bag a weithiau bydd ychydig o waed hefyd. Mae hyn i gyd yn arferol – bydd y ddafad yn llyfu'r oen yn lân, a bydd hyn yn cynhesu'r oen ac yn ei annog i anadlu. 

  • Weithiau mae stwff melyn neu wyrdd ar yr oen. 'Meconiwm' yw hwn, sef pwpw cyntaf yr oen, sydd wedi digwydd cyn neu yn ystod y geni. 

Oen sydd newydd ei eni: 

  • Mae oen sydd newydd ei eni yn aml yn symud yn afreolus neu'n crynu. Mae hyn yn arferol, ac yn ffordd dda o ddal sylw'r ddafad. Mae hefyd yn ei helpu i baratoi i sefyll i fyny a cherdded o fewn munudau o gael ei eni. Os ydych chi'n darged i anifail ysglyfaethus, rhaid i chi gael eich geni yn barod i redeg (neu guddio mewn den/nyth). 

  • Bydd oen hefyd yn symud yn afreolus/tisian droeon wrth iddo glirio'r hylifau geni o'i drwyn a'i lwnc. Weithiau bydd y bugail yn gwthio gwelltyn i drwyn yr oen i'w helpu i beswch neu disian. Bydd hefyd yn mwytho'r oen neu'n plygu un o'i goesau blaen fel pe bai'n reidio beic er mwyn gwneud iddo beswch/anadlu. 

  • Os na fydd hyn yn gweithio, weithiau bydd yn siglo'r oen gerfydd ei goesau ôl. Mae hyn yn defnyddio grym allgyrchol i helpu i glirio llwnc yr oen er mwyn iddo ddechrau anadlu. 

  • Rydym yn chwistrellu diheintydd ar fotwm bol oen sydd newydd ei eni. Mae hyn yn helpu atal yr oen rhag dal haint o lawr y sied trwy'r llinyn bogail sydd newydd gael ei dorri. 

Symud o'r sied ŵyna i'r gorlan ofal: 

  • Wedi bwrw, bydd y ddafad a’i hŵyn yn cael eu symud allan o'r sied ŵyna.   

  • Bydd y ffermwyr yn cario'r ŵyn gerfydd eu coesau: 

  • Achos mae ganddyn nhw goesau sydd lawer cryfach na choesau babis, ac maen nhw'n ysgafnach hefyd. 

  • Mae'n osgoi rhoi arogl person dros yr oen – mae hyn yn bwysig am ei fod yn ceisio creu perthynas â'i fam. 

  • Y ffordd fwyaf caredig o symud dafad sydd newydd eni oen yw ei chael i ddilyn yr oen o'r sied. Greddf dafad yw rhedeg i ffwrdd wrth bobl, nid eu dilyn. Ond bydd fel arfer yn dilyn ei hoen newydd pan fydd y ffermwr yn ei ddal fel hyn. 

  • Mae pob teulu newydd yn cael mynd i gorlan fach i ddod i nabod ei gilydd a bod yn ddiogel rhag prysurdeb y sied ŵyna.  

  • Y defaid sydd fel arfer yn llai parod i ddilyn eu hŵyn (neu'r rhai sy'n rhedeg i ffwrdd ar ôl geni oen) yw'r defaid blwydd oed sydd fel arfer yn ŵyna am y tro cyntaf.  

  • Mae'r defaid blwydd oed hefyd dipyn yn fwy gwyllt, gan nad ydynt wedi arfer â bod yn rhan o'r praidd. Mae'n bosibl y gwelwch chi'r ffermwyr yn defnyddio techneg wahanol iawn i symud y defaid yma a'u hwyn: 

  • Byddan nhw'n symud yr ŵyn gyntaf, er mwyn gwneud yn siŵr na fyddan nhw'n cael eu dal dan draed y defaid. 

  • Yna byddan nhw'n dal y ddafad – sydd dal yn gallu rhedeg yn gyflym er ei bod hi newydd eni oen! 

  • Byddan nhw'n cerdded y defaid hyn allan gyda'r coesau dros ysgwyddau'r ddafad. Dyma'r ffordd orau o reoli'r ddafad a'i stopio rhag rhedeg i ffwrdd. (Dydyn nhw DDIM yn eistedd ar eu pennau). 

  • Yna bydd y teulu'n dod 'nôl at ei gilydd yn y gorlan fach lle bydd pawb yn setlo'n gyflym wrth i'r ddafad ddod i arfer â bod yn fam. 

Mae llawer o wybodaeth am ein defaid a chyfnod ŵyna yn ein blogiau blaenorol: 

Cwestiynau Cyffredin Sgrinwyna  

Ydych chi’n gorwedd yn gyfforddus? 

Bernice Parker

Swyddog Digwyddiadau Cyhoeddus
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.