Dylunio (Mynegeiol) Arbrofol Evie Banks, 23 Chwefror 2022 Mae dylunio mynegeiol yn bodoli o'n cwmpas ni! Mae'n cofnodi'r rhyngweithio rhwng gwrthrychau, gan ddogfennu'r weithgaredd dan sylw. Cymerwch olwg ar y darlun hwn gan yr artist Olafur Eliasson. Fe'i creodd allan ar y môr yn ei gwch trwy drochi pêl mewn inc du. Gadawodd iddo rolio ar draws y papur er mwyn cofnodi’r tonnau a symudiadau'r cwch ar draws y cefnfor. Beth am greu eich darlun arbrofol eich hun? Mi fyddwch angen: Beiro, darn o linyn, pad braslunio. 1. Clymwch y darn o linyn (neu beth bynnag rydych yn ei ddefnyddio) i'r beiro neu bensil. 2. Clymwch ben arall y llinyn i gangen coeden. (tip – mae canghennau tenau yn symud dipyn mwy na rhai tewach) 3. Rhowch ddarn o bapur o dan y beiro a gosod amserydd am ba bynnag faint o amser yr hoffech adael y beiro symud (fe wnaethon ni amseru am 10mun) 4. Gwyliwch y gwynt yn chwythu drwy’r canghennau gan adael patrwm y gwynt ar y darn papur. 5. Canlyniad: Darn o gelf wedi ei greu gan natur Mae'r lluniau yma i gyd wedi cael eu tynnu wrth i fi geisio creu dyluniad arbrodol fy hun, gan ddarlunio symudiad coeden yn ystod gwynt storm Corrie. Mae modd dilyn symudiad y cynghennau ar y papur - pan mae'r marciau yn dew rydym yn gwybod bod cyfnod o lonyddwch, pan mae'r gwynt yn chwythu wedyn mae'r llinellu hynny fwy tennau. Rhannwch eich dyluniadau hefo ni, tagiwch ni ar Instagram neu Facebook gan ddefnyddio #gaeafllawnlles