Hafan y Blog

Dylunio (Mynegeiol) Arbrofol

Evie Banks, 23 Chwefror 2022

Mae dylunio mynegeiol yn bodoli o'n cwmpas ni! Mae'n cofnodi'r rhyngweithio rhwng gwrthrychau, gan ddogfennu'r weithgaredd dan sylw. 

Cymerwch olwg ar y darlun hwn gan yr artist Olafur Eliasson. Fe'i creodd allan ar y môr yn ei gwch trwy drochi pêl mewn inc du. Gadawodd iddo rolio ar draws y papur er mwyn cofnodi’r tonnau a symudiadau'r cwch ar draws y cefnfor. 

Beth am greu eich darlun arbrofol eich hun? 

Mi fyddwch angen: Beiro, darn o linyn, pad braslunio. 

1. Clymwch y darn o linyn (neu beth bynnag rydych yn ei ddefnyddio) i'r beiro neu bensil.   

Llaw yn dal beiro sharpie

 

 

 

 

2. Clymwch ben arall y llinyn i gangen coeden. (tip – mae canghennau tenau yn symud dipyn mwy na rhai tewach)  

Llun o sharpie yn cael ei glymu i gangen coeden

 

 

 

 

 

 

3. Rhowch ddarn o bapur o dan y beiro a gosod amserydd am ba bynnag faint o amser yr hoffech adael y beiro symud (fe wnaethon ni amseru am 10mun)  

Llun agod o feiro sharpie wedi cael ei glymu gyda brethyn i gangen ac yn darlunio ar ddarn o bapur

 

 

 

 

 

 

 

4. Gwyliwch y gwynt yn chwythu drwy’r canghennau gan adael patrwm y gwynt ar y darn papur. 

5. Canlyniad: Darn o gelf  wedi ei greu gan natur 

Mae'r lluniau yma i gyd wedi cael eu tynnu wrth i fi geisio creu dyluniad arbrodol fy hun, gan ddarlunio symudiad coeden yn ystod gwynt storm Corrie. 

Mae modd dilyn symudiad y cynghennau ar y papur - pan mae'r marciau yn dew rydym yn gwybod bod cyfnod o lonyddwch, pan mae'r gwynt yn chwythu wedyn mae'r llinellu hynny fwy tennau. 

Rhannwch eich dyluniadau hefo ni, tagiwch ni ar Instagram neu Facebook gan ddefnyddio #gaeafllawnlles

 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.