Hafan y Blog

Gaeaf Llawn Lles: Terfysg Digidol

2 Mawrth 2022

Ymunwch â ni am Derfysg Digidol! Geithdy cyffrous am ddim sy'n dathlu drag a hunaniaeth rhywedd  a'i ymwneud â hanes protest Cymru.

Mae'r prosiect hwn, a ysbrydolwyd gan hanes Merched Beca, yn archwilio hunaniaeth fel rhan o brotest.

Bydd 'Terfysg Digidol' yn anelu at wneud hyn drwy gynnal gweithdy i bobl ifanc rhwng 10 a 14 oed yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Bydd y diwrnod yn cael ei rannu'n dair rhan:

  • Dyluniwch eich bathodyn protest eich hunain
  • Gwnewch arwyddion protest wedi'u hysbrydoli gan hanes y Merched Beca
  • Ac yn olaf, yn gwisgo ein bathodynnau ac yn defnyddio ein harwyddion protest byddwn yn ymweld â'r tolldy yn Sain Ffagan i lwyfannu a thynnu lluniau ein mini-terfysg Merched Beca ein hunain

Bydd cyfranogwyr y gweithdy hwn hefyd yn derbyn 'Pecyn Celf' wedi'i lenwi ag adnoddau.

Cynhelir y gweithdy am ddim yma am 12-2pm ar 12 Mawrth 2022. Gall cyfranogwyr ymuno naill ai yn Sain Ffagan yn bersonol neu'n ddigidol dros Zoom. I archebu eich lle cysylltwch â info@galeriesimpsonswansea.com

Mae Terfysg Digidol yn brosiect a ddyfeisiwyd gan yr artist Abigail Fraser ar gyfer y rhaglen allgymorth cymunedol 9-90 gan artistiaid GS Abertawe, fel rhan o Geaf Llawn Lles, a ariennir gan Llywodraeth Cymru.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.