Hafan y Blog

Dathlu Amrywiaeth mewn Chwaraeon

Fflur Morse, 30 Medi 2022

Y 30ain o Fedi yw Diwrnod Cenedlaethol Treftadaeth Chwaraeon, a’r thema eleni yw dathlu amrywiaeth ym myd chwaraeon.  

Mae’n gyfle i ddathlu treftadaeth chwaraeon cymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a defnyddio eu storiâu i addysgu ac ysbrydoli.

Bydd y blog yma yn cyflwyno uchafbwyntiau o gasgliad Amgueddfa Cymru sydd yn taflu golau ar straeon chwaraeon amrywiol yng Nghymru.  

Crys CPD Dreigiau Caerdydd a wisgwyd gan Murray Harvey

Sefydlwyd CPD Dreigiau Caerdydd yn 2008 a dyma dîm pêl-droed LHDTC+ cyntaf Cymru. Cynhaliwyd eu gêm gyntaf ar ddydd Sul 26 Hydref 2008 yn erbyn Rhufeiniaid Llundain ar Barc Caedelyn, Caerdydd. Dreigiau Caerdydd enillodd y diwrnod hynny gyda sgôr o 5-4. Gwisgwyd y crys pêl-droed yma gan y capten, Murray Harvey (aelod o Ddreigiau Caerdydd rhwng 2008 a 2018), yn y gêm gyntaf hon. 

Crys Clwb Rygbi Llychlynwyr Abertawe a wisgwyd gan David Parr

Mae Clwb Rygbi Llychlynwyr Abertawe yn dîm rygbi hoyw a chynhwysol. Cafodd y tîm ei sefydlu ar 9 Mai 2015, a hwn oedd yr ail dîm hoyw i gael eu sefydlu yng Nghymru. 

Dyma oedd cit cyntaf y tîm, a gwisgwyd y crys yma gan David Parr a ymunodd â Llychlynwyr Abertawe ym mis Ionawr 2016. Dywedodd David,

“Being part of an open, inclusive club that doesn't discriminate has been great for my self confidence, physical and mental health and has enabled me to make many lifelong friendships. I wore the kit on many occasions throughout 2016 and 2017 including against fellow LGBT team the Cardiff Lions in January 2017”.

Llun cyhoeddusrwydd wedi'i lofnodi gan y bocsiwr, Pat Thomas

Ganed Pat yn 1950 yn Saint Kitts, a symudodd i Gaerdydd yn saith oed. Enillodd sawl teitl bocsio mewn dau bwysau yn ei yrfa hir o dros bedair blynedd ar ddeg. Aeth ymlaen i sefydlu Clwb Bocsio Tiger Bay ym 1984, lle bu hefyd yn gweithio fel hyfforddwr ar ôl ymddeol o focsio proffesiynol.

Taflen a ddyluniwyd gan Anthony Evans ar gyfer Mudiad Gwrth-Apartheid Cymru.

Dyma daflen ddwyieithog a ddyluniwyd gan yr artist Anthony Evans ar gyfer Mudiad Gwrth-Apartheid Cymru. Mae'r daflen yn hysbysebu gwrthdystiad a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 16 Ebrill 1986 i brotestio yn erbyn gem rygbi rhwng Llewod Prydain a Gweddill y Byd (Rest of the World). Roedd carfan Gweddill y Byd yn cynnwys chwe chwaraewr Springboks o Dde Affrica. 

Ar flaen a chefn y daflen mae'r arysgrif: ''Mae nhw'n chwarae â gwaed yn NE AFFRICA - dim cysylltiadau / NO LINKS WITH SOUTH AFRICAN BLOOD SPORTS. 

Bathodyn blaser Gemau Olympaidd 1952 a wisgwyd gan Eileen Allen

Dyma fathodyn blaser wedi'i addurno â Jac yr Undeb gyda OLYMPIC GAMES 1952 arni. TCynhaliwyd Gemau Olympaidd 1952 yn Helsinki, ddeng mlynedd yn hwyrach na'r bwriad oherwydd dechrau'r Ail Ryfel Byd. 

Gwisgwyd y bathodyn gan Miss Eileen Allen o Gaerdydd. Ym 1952 roedd hi’n aelod o Dîm Prydain Fawr fel dyfarnwraig ar y panel hoci. 

Roedd hyn yn gamp enfawr i feddwl mai dim ond dynion allai gystadlu mewn hoci yn y Gemau Olympaidd yr amser hynny. Ni ymddangosodd hoci i fenywod yn y Gemau Olympaidd tan 1980.  

Pâr o gareiau enfys Stonewall

Yn olaf, dyma bâr o gareiau enfys gan y mudiad Stonewall. Lansiwyd y careiau hyn gan Stonewall yn 2013, i hyrwyddo cydraddoldeb LHDTC+ ac i helpu atal homoffobia mewn chwaraeon. Dosbarthwyd y pâr yma i bobl a fynychodd Raglen Modelau Rôl Stonewall Cymru yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2019. 

Dywedir ar y label: 

MAKE SPORT EVERYONE’S GAME 

Mae’r bobl a’r cymunedau sydd yn ymddangos yn y blog yma wedi gwneud cyfraniad aruthrol i chwaraeon yng Nghymru, wrth weithio i sicrhau bod chwaraeon yn gynhwysol i bawb. Mae eu straeon bellach yn rhan o gasgliad y genedl, yno i ysbrydoli'r cenedlaethau nesaf o athletwyr a chefnogwyr.

Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gynyddu cynrychiolaeth yn y casgliad cenedlaethol i sicrhau bod diwylliant yn agored i bawb, ac i geisio rhoi darlun teg o holl hanesion Cymru.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw wrthrychau yr hoffech eu rhoi i ddatblygu casgliad chwaraeon Amgueddfa Cymru, fel y gallwn barhau i amrywio’r casgliad, gan sicrhau y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn gallu dysgu am holl dreftadaeth chwaraeon Cymru. 

Yn olaf, gallwch chwilio a gweld gwrthrychau o’r casgliad ar gatalog Casgliadau Arlein yr Amgueddfa.

#NSHD2022

 

Fflur Morse

Uwch Guradur Bywyd Diwylliannol
Gweld Proffil
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.