Hafan y Blog

Mary Anning – casglwraig ffosilau arloesol

Cindy Howells a Caroline Buttler, 2 Mawrth 2023

Mae Mary Anning yn cael ei chofio fel un o fenywod eiconig y 19eg Ganrif. Fe wnaeth y fenyw o gefndir gweithiol ganfyddiadau gwyddonol mawr oedd cystal â gwaith unrhyw ddynion oedd yn ddaearegwyr ar y pryd.

Ganwyd Mary ar 21 Mai 1799 yn nhref fechan Lyme Regis, yn Dorset. Saer oedd ei thad, ond bu farw pan oedd hi'n 11 oed gan adael y teulu mewn dyled a heb incwm sefydlog. Roedden nhw wedi bod yn ychwanegu at eu hincwm ers rhai blynyddoedd drwy gasglu ffosilau ar gyfer twristiaid, a daeth Mary yn dda iawn yn gwneud hyn. Roedd ganddi lygad dda am ddarnau bychan o esgyrn ffosil yn y graig, ac fe ddatblygodd hi dechneg o'u tynnu nhw'n ofalus o'r graig gyda chŷn a morthwyl. ⁠Dechreuodd ei Mam, Molly, y busnes o werthu'r ffosilau, a dyma'r ddwy yn adeiladu siop lwyddiannus oedd yn denu twristiaid a gwyddonwyr. Roedd hi'n waith caled, casglu ffosilau o'r traeth ym mhob tywydd a'u cario adref i'w glanhau a'u gwerthu. 

Pan oedd Mary yn 12 dyma hi a'i brawd, Joseph, yn canfod darnau o sgerbwd ymlusgiad 5m o hyd. Cafodd y darn ei brynu am £23 (cyflog 6 mis i lafurwr ar y pryd). Cyn hyn, roedd pawb yn meddwl taw gweddillion crocodeilod oedd y ffosilau ymlusgiaid mawr oedd i'w gweld yn yr ardal. Doedd neb yn gwybod am anifeiliaid arall tebyg. Cafodd sbesimen Mary ei astudio gan sawl gwyddonydd a daeth yn sylfaen i waith ar fath newydd o ymlusgiad morol o'r enw ichthyosaur (madfall-bysgodyn yn Lladin).

Dros y degawdau nesaf dyma Mary yn canfod nifer o ffosilau newydd ac anarferol, gan gynnwys y plesiosaur cyntaf, y pterosaur cyntaf (madfall hedegog) y tu allan i'r Almaen, a sawl pysgodyn newydd. Drwy sylwi'n glyfar ar yr hyn oedd hi'n ei ganfod, roedd hi'n gallu dehongli pethau'n wahanol. Doedd neb yn gwybod beth oedd y talpiau cyffredin o garreg galed oedd yn cael eu galw'n Gerrig Besoar, ond drwy sylwi pa mor agos oedden nhw i'r sgerbydau ichthyosaur dyma Mary'n sylweddoli taw gweddillion ffosil dom anifeiliaid oedden nhw – coprolitau. Lledodd y sôn amdani, a cyn hir roedd daearegwyr blaenllaw yn galw ac yn gofyn ei barn hi.

Roedd Mary'n gymeriad rhyfedd oedd ddim yn ffitio mewn i gategoriau arferol. Dim ond ychydig flynyddoedd o addysg yn yr ysgol Sul leol gafodd hi, ond roedd hi'n gallu ysgrifennu'n dda a mynegi'i hun yn rhugl. Ond oherwydd ei dosbarth, allai hi ddim cymysgu'n gymdeithasol â phobl oedd ar yr un lefel ddeallusol. Fel menyw, roedd hi wedi ei gwahardd yn llwyr o Gymdeithas Ddaearegol Llundain, lle byddai hi wedi gallu rhannu a thrafod ei syniadau gwyddonol. Ac er bod ei henw i'w gweld mewn traethodau gwyddonol, chafodd hi byth ei chydnabod fel un o'r awduron.

Mae hi wedi cael ei disgrifio fel menyw annibynnol, hyderus, balch a pharod ei barn, ac mae ei llythyrau yn dangos pa mor chwerw oedd hi'n teimlo am ei sefyllfa. Ond gallai hi hefyd fod yn garedig a hael, a byddai'n helpu ei chymdogion pan y gallai hi.

Roedd ymwelwyr â Lyme Regis yn gallu mynd i weld ei charreg fedd a'r ffenest wydr yn ei choffau yn yr eglwys, ond yn 2022 dadorchuddiwyd cerflun iddi. Roedd hyn yn benllanw ymgyrch ryfeddol merch naw oed o'r enw Evie Swire. Dyma hi’n gofyn i'w mam, Anya Pearson, ble oedd y cerflun o Mary, a deall bod dim un i gael wnaeth ysbrydoli ymgyrch Mary Anning Rocks, wnaeth gasglu dros £100,000 i dalu am gerflun. Comisiynwyd yr artist Denise Dutton i greu'r cerflun sydd i'w weld ar lan y môr, yn dangos Mary Anning a'i chi yn camu'n bwrpasol tua'r traeth yn barod i wneud canfyddiadau cyffrous newydd.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.