Ceisiadau ar Agor ar Gyfer Prosiect Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion 2023-24 Penny Dacey, 1 Gorffennaf 2023 Astudiaeth newid hinsawdd ar dir eich ysgol.Ymchwiliad gwyddonol wedi'i anelu at oedran 8-11. Defnyddiwch eich dosbarth awyr agored! Ymunwch â'r 175 o ysgolion sy'n cymryd rhan yn yr arbrawf arbennig hwn. Mae Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion yn rhoi cyfle i ddisgyblion cynradd fabwysiadu, astudio a chofnodi datblygiad bylbiau'r gwanwyn fel rhan o rwydwaith gwylio'r gwanwyn. Caiff pob disgybl fwlb cennin Pedr Dinbych, crocws a photyn gardd er mwyn cofnodi'r tyfiant a'r amserau blodeuo. Bydd pob ysgol hefyd yn derbyn mesurydd glaw a thermomedr, i gasglu data tywydd yn ddyddiol.Trwy gasglu a chymharu data mae disgyblion yn darganfod sut mae'r newid yn ein hinsawdd yn effeithio ar ein tymhorau, a beth mae hyn yn ei olygu i ni ac i'r natur o'n cwmpas. Mae disgyblion syn cymryd rhan yn ennill tystysgrif gwyddonydd gwych.Gall ysgolion ledled Cymru gymryd rhan gan fod y canlyniadau yn cael eu casglu drwy'r we. Mae'r prosiect yn un parhaus a gall ysgolion gymryd rhan yn flynyddol. Edrychwch ar ein map i weld os mae eich ysgol wedi cymryd rhan o blaen.Er mwyn gwneud cais i gymryd rhan yn Fylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion 2023-2024 llenwch y ffurflen gais ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod.Ceisiadau nawr ar agor ond mae niferoedd yn gyfyngedig felly wnewch gais yn fuan i sicrhau eich lle ar y project! Ceisiadau ar agor i ysgolion yng Nghymru yn unig. Mae’r dyddiad cau wedi pasio ar gyfer ysgolion o’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon ond mae croeso i chi gysylltu ag Ymddiriedolaeth Edina am wybodaeth ar sut i gymryd rhan yn y project yn 2024-2025.Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion – Ffurflen GaisAnfonwch unrhyw ymholiadau i E-bost SCAN Penny Dacey Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion Cysylltwch â Penny Dacey Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.