Arddangosfa Geiriau Diflanedig – Partneriaeth ar waith
28 Gorffennaf 2023
,Ym mis Mehefin eleni fe deithiais i, Ulrike Smalley ac Aled Williams i Drawsfynydd i helpu gyda'r gwaith o osod arddangosfa Geiriau Diflanedig yn yr Ysgwrn. Mae'r arddangosfa yn ffrwyth partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Dyma leoliad perffaith ar gyfer arddangosfa o waith ar bapur a chasgliad bychan o eitemau yn dathlu'r berthynas rhwng iaith a natur all danio dychymyg. Saif canolfan ddiwylliannol yr Ysgwrn, gyda'i horiel, ei chaffi a'i gofod addysg, yn nhirlun prydferth Eryri. Mae'r hen sgubor yn rhan o'r tyddyn lle magwyd Ellis Humphrey Evans – y bardd enwog, Hedd Wyn.
Ffermwyr oedd y teulu, ond roedd ei rieni yn cefnogi ei grefft fel bardd. Enillodd ei gadair gyntaf yn 20 oed, a byddai'n ennill pedair arall cyn iddo farw, naw mlynedd yn ddiweddarach ar Ffrynt y Gorllewin. Bu farw heb wybod iddo wireddu ei uchelgais o ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Cafodd y gadair dderw gain ei chludo ar y trên, ac yna ar gefn ceffyl a chart i'r cartref lle'i magwyd, lle mae ar gael i'w gweld gan y cyhoedd hyd heddiw. Mae Hedd Wyn yn parhau yn symbol o'r genedl goll o ddynion ifanc a aeth i ryfel ond ddaeth fyth yn ôl. Tyfodd ei gartref dros y blynyddoedd yn fan i ddarganfod a dysgu, ac yn bererindod i bobl sydd am ddysgu mwy am ei fywyd a'r hyn â garai.
Byddai prydferthwch ei filltir sgwâr yn aml yn ysbrydoli Hedd Wyn. Mae darluniau Jackie Morris yn Geiriau Diflanedig yn tynnu ar yr un prydferthwch, yn dathlu'i fodolaeth a galaru ei ddiflaniad. Gwrthrychau a chreaduriaid byd natur yw testun ei darluniau dyfrlliw ac eurddalen – y bioden a'r castan, y dwrgi a'r drudwy – ac maen nhw'n wirioneddol hardd. Yn ategu'r darluniau mae cerddi yn Saesneg gan Robert MacFarlane ac yn Gymraeg gan Mererid Hopwood.
Cyn i'r tîm ddechrau gosod y 25 gwaith yn yr arddangosfa, roedd yn rhaid gorchuddio waliau carreg gwreiddiol yr oriel â byrddau MDF. Wrth i Aled ac Ulli drafod y dylunio, dyma fi'n cael golwg ar y gwrthrychau. Gyda chymorth Naomi a Kevin yn yr Ysgwrn gosodwyd y gweithiau a'r paneli barddoniaeth, trefnwyd y gwrthrychau byd natur mewn hen ddesgiau ysgol wedi'u selio, addaswyd y goleuadau, gludwyd yr arwyddion vinyl, brwsiwyd y llawr, sgleiniwyd y gwydr, a gosodwyd gweision y neidr gwiail i hongian o'r to.
Dyma ni'n ailadrodd y broses yn Oriel y Parc yn Nhyddewi, lle mae ail hanner yr arddangosfa i'w gweld, gan gynnwys sbesimenau o gasgliadau hanes natur Amgueddfa Cymru.
Cofiwch alw draw os fyddwch chi'n teithio i Wynedd neu Sir Benfro dros y naw mis nesaf. Bydd y profiad yn hudol.