Protest Comin Greenham - Carole Stuart McIvor
25 Awst 2023
,Ar 27 Awst 1981, gwnaeth 36 o fenywod o Gymru adael Caerdydd a gorymdeithio i RAF Comin Greenham yn Berkshire i gychwyn eu hymgyrch i atal arfau niwclear yr Unol Daleithiau rhag cael eu cadw ar dir Prydain. Enwodd y grŵp eu hunain yn 'Women for Life on Earth'.
I gydnabod y menywod dewr hyn, hoffwn nodi'r pen-blwydd hwn drwy ganolbwyntio ar gasgliad dwi wedi bod wrthi'n ei gatalogio, sy'n rhoi gwybodaeth werthfawr am brotest Comin Greenham. Rhoddwyd y casgliad gan Carole Stuart McIvor, ymgyrchydd heddwch blaenllaw a oedd yn rhan bwysig o'r protestiadau yng Nghomin Greenham a'r protestiadau diweddarach ym mhencadlys y Ffatri Ordnans Frenhinol yn Llanishen, Caerdydd.
Mae’r casgliad yn dogfennu aberth a gwytnwch parhaus Carole a'i chyd-brotestwyr. Ynddo mae nifer o doriadau papur newydd yn dangos y rhagfarn oedden nhw'n ei ddioddef a sut oedd y cyfryngau prif-ffrwd yn eu beirniadu, lluniau o'r heddlu yn eu harestio, a chofnodion o gyfnod Carole dan glo fel un o'r sawl a gafodd eu carcharu am eu gweithredoedd.
Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys yr achos llys a gyflwynwyd gan Greenham Women Against Cruise Missiles yn erbyn yr Arlywydd Ronald Reagan ac Ysgrifennydd Amddiffyn yr UDA Caspar Weinberger. Rho Carole Harwood (Carole Stuart McIvor yn ddiweddarach) ei rhesymeg dros gefnogi diarfogi niwclear a mudiad heddwch y menywod yn ei datganiad:
"Dyma fi’n dod yn rhan o fudiad heddwch y menywod ar ôl mynd â'n nheulu i lan y môr yn Ninbych-y-pysgod. Wrth wrando ar y chwerthin plant oedd wedi'i glywed ar y traethau hyn ers canrifoedd, dyma fi’n sylweddoli y gallai’r cyfan gael ei ddistewi gan ddynion heb unrhyw ymdrech i’w glywed. Roedd hynny'n rhy boenus... Cefais i fy syfrdanu o ddeall, os fydden ni'n parhau i chwarae gyda deunyddiau niwclear (nid bomiau yn unig) gallai hyd oes plant sy'n cael eu geni nawr fod ar gyfartaled yn 18 mlynedd."
Yn ei hanfod, roedd hon yn brotest dros heddwch gan fenywod Cymru, ac eraill ledled y DU, ac mae'r casgliad hwn yn crynhoi'r frwydr honno.