Hafan y Blog

Crynodeb o Leoliad Gwaith Archeoleg 2022-23

David Hughes (ar Leoliad Gwaith i Fyfyrwyr), 13 Tachwedd 2023

Mae lleoliadau gwaith i fyfyrwyr yn Amgueddfa Cymru yn gallu bod yn gystadleuol, yn enwedig rhai ym maes archeoleg. Roeddwn wrth fy modd yn cael lle ar leoliad i helpu’r Amgueddfa asesu a chatalogio gweddillion dynol.

Gan ymuno â grŵp bach o unigolion ar leoliad, rhai ohonynt yn fyfyrwyr o gwrs Gwyddor Archeolegol Caerdydd, buom yn gweithio ochr yn ochr â’r Curadur i asesu sgerbydau o fynwent ganoloesol gynnar yn Llandochau, ger Caerdydd. Datgelodd y cloddiadau ar ddechrau’r 1990au dros fil o sgerbydau, a rheini wedi bod yn archif Amgueddfa Cymru yn disgwyl archwiliad llawn.

Dysgon ni sut mae'n rhaid storio a thrin y sgerbydau yn unol â safonau moesegol ar gyfer delio â gweddillion dynol. Caiff pob sgerbwd ei hasesu'n unigol ar gyfer cyflawnrwydd, ac weithiau mae'n bosib adnabod y rhyw a gweld tystiolaeth o oedran neu afiechydon. Cofnodwyd y wybodaeth i’w gynnwys yng nghatalog yr Amgueddfa, a bydd yn ddefnyddiol iawn yn y dyfodol wrth ymchwilio gweddillion dynol safle Llandochau, a bydd yn cyfrannu at astudiaeth archeoleg ganoloesol yn fwy cyffredinol.

Mae archwilio gweddillion dynol yn ysgogi adfyfyrio ar fywydau pobl ganoloesol ac, er efallai nad yw at ddant pawb, mae’n dod â ni’n nes at y gorffennol mewn ffordd arbennig. Roedd y lleoliad gwaith yn brofiad dysgu rhagorol. Roedd y Curadur, Adelle yn amyneddgar iawn gyda’r holl gwestiynau a godwyd ac yn hael wrth rannu ei gwybodaeth a’i sgiliau. Mae’n ffordd wych i Amgueddfa Cymru ymgysylltu â’r cyhoedd, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfle i weld y tu ôl i’r llenni a chyfrannu at waith yr amgueddfa. Rwy'n gobeithio y bydd Amgueddfa Cymru yn parhau i gynnig cyfleoedd o'r fath i'r rhai a hoffai cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith i fyfyrwyr.

 

Am fwy o wybodaeth am leoliadau gwaith i fyfyrwyr, ewch i dudalennau ‘Cymryd Rhan’ y wefan. Mae modd cofrestru i rhestr bostio i glywed am unrhyw leoliadau pan fyddant yn cael eu hysbysebu. 

Chloe Ward

Cydlynydd Gwirfoddoli
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.