Her Ŵyna i Ysgolion: Enillwch weithdai am ddim gydag Amgueddfa Cymru! Ffion Rhisiart, 4 Mawrth 2024 Rydym yn falch iawn i lansio Her Ŵyna i Ysgolion newydd sy’n cael ei gynnal gan Amgueddfa Cymru. Bydd yr ysgol buddugol yn gallu archebu hyd at 2 weithdy naill ai mewn person ar un o’n safleoedd neu'n rhithiol, o'r rhestr a hysbysebir ar wefan yr Amgueddfa. Credwn fod sesiynau Sgrinwyna yn hwyl ac yn addysgiadol i ddisgyblion, ond hefyd yn gyfle i feithrin eu chwilfrydedd am y byd o'u cwmpas.Hoffen ni wybod sut rydych chi’n defnyddio Sgrinwyna yn eich ysgolion - rhannwch eich hoff brofiadau o ddefnyddio sesiynau Sgrinwyna yn y dosbarth gyda’ch disgyblion. Manylion yr HerOedrannau: 5-14 mlwydd oedDyddiad: 4ydd - 22ain Mawrth 2024Sut i gymryd rhan: Rhannwch luniau, fideos neu weithiau celf ar X (Twitter gynt) a pheidiwch ag anghofio ein tagio nig an ddefnyddio @Amgueddfa_Learn a #Sgrinwyna #Lambcam. Os byddwch yn cyflwyno nifer o geisiadau o’r un ysgol, cofiwch gynnwys new eich dosbarth yn y neges hefyd.Gwobr: Bydd yr ysgol buddugol yn gallu archebu hyd at 2 weithdy naill ai mewn person neu yn rhithiol, gan ddewis o’r rhestr a hysbysebir ar wefan yr Amgueddfa. Telerau ac AmodauCymerwch ran drwy X (Twitter gynt) yn unig – rhannwch eich lluniau drwy dagio @Amgueddfa_Learn a thrwy ddefnyddio’r hashnodau #Sgrinwyna #LambcamNid oes cyfyngiad ar y nifer o geisiadau. Gall ysgolion gymryd rhan gyda chymaint o ddosbarthiadau ag y dymunant.Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap a byddant yn cael eu hysbysu erbyn dydd Mercher 10fed o EbrillMae'r wobr yn ddilys ar gyfer unrhyw safle Amgueddfa Cymru, yn amodol ar argaeledd.Ni ddylai nifer y disgyblion fod yn fwy na 60 ac mae'n gyfwerth â 2 weithdy nail ai mewn person neu’n rhithiol, o’r rhestr a hysbysebir ar wefan yr Amgueddfa.Mae’r wobr yn ddilys tan ddiwedd tymor yr haf / diwedd Gorffennaf 2024.Bydd dyddiadau'r gweithdy yn seiliedig ar argaeledd ar adeg trefnu taith. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni ar wyna@amgueddfacymru.ac.uk Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ceisiadau creadigol a chraff! Ydych chi’n mee-ddwl y byd o Sgrinwyna? Cyfrannwch heddiw!