Hafan y Blog

Cynaliadwyedd Gwlân ar gyfer Ffermio Defaid yn Gynaliadwy

Gareth Beech, 12 Mawrth 2024

Wrth i ni groesawu ein ŵyn newydd i’r byd yn fferm Llwyn-yr-eos, dwi wedi bod yn gwylio protest ffermwyr Cymru ac yn meddwl am eu dyfodol.  

Rhan arwyddocaol a dadleuol o gynigion presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol amaeth yng Nghymru ydy’r mesurau i hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol ac adfer bioamrywiaeth. Gallai hyn olygu llawer llai o ddefaid yn cael eu cadw yng Nghymru yn y dyfodol. Mae’n bosibl mai ffermio defaid yn gynaliadwy gan ddefnyddio dulliau sy’n ystyried yr amgylchedd ac yn creu cynnyrch gwerth uchel fydd y ffordd ymlaen. Ond sut i greu gwerth ychwanegol fyddai’r her. 

Un agwedd ar ffermio defaid sydd wedi bod yn destun rhwystredigaeth i ffermwyr am flynyddoedd yw pris isel gwlân. ‘Dyw pris cnu yn aml ddim yn ddigon i dalu’r cneifiwr i’w gneifio. Mae rhai ffermwyr yn llosgi neu’n claddu eu gwlân yn hytrach na thalu i’w gael wedi’i gasglu o’r storfa wlân. Mae gwlân Sain Ffagan yn mynd i storfa British Wool yn Aberhonddu, sydd â’r nod o annog galw am y cynnyrch. Mae yna angen go iawn i ddod o hyd i werth ychwanegol i wlân Cymreig tu hwnt i’w ddefnydd confensiynol ar gyfer dillad a thecstilau. Mae hyn wedi arwain at ymchwil newydd i’w ddefnydd mewn cynnyrch arloesol, ac weithiau annisgwyl.  

 

Mae gwlân fel opsiwn arall ar gyfer deunydd insiwleiddio mewn tai yn dod yn fwy cyffredin, ond mae’r amrywiaeth o gynnyrch a defnyddiau newydd sy’n cael eu datblygu yn cynnwys ffitiadau mewnol ar gyfer ceir, cynhwysyn arbenigol ar gyfer cynnyrch cosmetig, a gorchuddion wedi’u hinsiwleiddio. Mae cynnyrch eraill wedi’u datblygu mewn gerddi ac ar ffermydd, fel ffordd o ddod o hyd i ddefnyddiau gwahanol ar gyfer gwlân ac incwm ychwanegol.

Mae Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â phroject ‘Gwnaed â Gwlân’ Menter Môn i ddatblygu syniadau newydd. Maen nhw wedi nodi pump cynnyrch gyda’r potensial i greu gwerth uchel. Y prif gynnyrch gyda’r potensial ariannol mwyaf ydy ceratin, protein edafeddog a ellir ei ddefnyddio mewn cynnyrch cosmetig, cynnyrch gwallt a meddyginiaethau. Mae ceratin o wlân yn opsiwn dichonadwy gwahanol i ffynonellau confensiynol fel gwallt pobl a phlu, sydd bellach yn cael ei gwestiynu’n foesegol, neu ddefnyddio cynnyrch petrolewm.  

Gellir defnyddio nodweddion inswleiddio gwlân a’i allu naturiol i reoli lleithder a tymheredd mewn gorchuddion ar gyfer trolïau sy’n cario cynnyrch oergell mewn archfarchnadoedd. Gallan nhw fod yn opsiwn cynaliadwy gwahanol i ddefnyddio deunydd plastig fel polyẅrethan 

Mae cwrs Dylunio Cynnyrch Prifysgol Bangor wedi cynhyrchu prototeipiau ar gyfer handlenni offer campfa, a mowldiau ar gyfer tu mewn ceir, fel opsiynau cynaliadwy gwahanol i blastigion. Mae gwlân yn cael ei ddefnyddio gyda bio-resin a wneir o ffynonellau adnewyddadwy a phydradwy fel planhigion a mwydion coed.

Mae’r ‘Solid Wool Company’ eisoes yn defnyddio’r dull i gynhyrchu eu cadeiriau gwlân solet ‘Hembury’ gan ddefnyddio gwlân defaid mynydd Cymreig, sy’n cael ei ddisgrifio fel creu ‘effaith marmor trawiadol, sy’n arddangos haenau unigryw y gweadau a’r graddliwiau a welir yn y gwlân anhygoel hwn’.

Yng Ngwinllan Conwy, mae matiau o wlân yn cael eu gosod ar y ddaear wrth droed y gwinwydd, gan gadw plâu a chwyn i ffwrdd, a lleihau’r angen i chwistrellu cemegion. Mae’r cnuoedd hefyd yn adlewyrchu golau’r haul ar y grawnwin. Yn arwyddocaol, mae ansawdd y gwin hefyd wedi gwella.

Mewn ffordd debyg, mae matiau gwlân hefyd yn effeithiol mewn gerddi llysiau. Mae atgyweirio llwybrau troed gan ddefnyddio gwlân fel sylfaen yn cael ei beilota ar Ynys Môn. Mae’n ffordd o geisio dod o hyd i ddull mwy cynaliadwy o ddefnyddio cynnyrch sydd wedi’i greu yn lleol, yn hytrach na deunydd artiffisial.

 

Gydag ystod mor eang o ddefnyddiau newydd a chynaliadwy, dwi’n gobeithio y bydd cnu yr ŵyn rydych chi’n gweld yn cael eu geni heddiw, yn cael eu defnyddio yn y dyfodol drwy ffermio defaid yn gynaliadwy, mewn amgylchedd cynaliadwy.

Am ragor o wybodaeth am stori gwlân, ewch i Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-fach Felindre, Sir Gaerfyrddin.  

Amgueddfa Wlân Cymru 

 

 

Ydych chi’n mee-ddwl y byd o Sgrinwyna? Cyfrannwch heddiw!

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.