Pasg Hapus Penny Dacey, 26 Mawrth 2024 Diolch i'r holl ysgolion sydd wedi uwchlwytho eu data tywydd a blodau cyn gorffen ar gyfer y gwyliau. Mae rhai ohonoch yn dal i gasglu data'r wythnos hon a bydd yn ei uwchlwytho i'r wefan ar ddydd Iau. Diolch am eich holl waith caled.Mae ysgolion wedi rhannu sylwadau hyfryd am y prosiect yr wythnos hon. Mae rhai o'r sylwadau yma wedi'u cynnwys ar y dde. Ar ôl y gwyliau byddwn yn cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth fideo BylbCast. Ym mis Mai byddwn yn anfon gwobrau i bob ysgol sydd wedi rhannu data. Cyn diwedd y flwyddyn academaidd yma, byddwn yn rhannu adroddiad sy'n archwilio'r data tywydd a blodau ac yn ei gymharu â blynyddoedd blaenorol.Diolch eto Cyfeillion y Gwanwyn,Athro'r Ardd Penny Dacey Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion Cysylltwch â Penny Dacey Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.