Hafan y Blog

Canfod rhywogaethau newydd

Kate Mortimer-Jones a Teresa Darbyshire, 8 Gorffennaf 2024

Gwyddonwyr Amgueddfa Cymru yn darganfod rhywogaethau newydd o Dde Affrica a'r DU

Yn ddiweddar rydyn ni wedi bod yn gweithio ar broject cyffrous rhwng Amgueddfa Cymru a gwyddonwyr o Amgueddfeydd Iziko yn Ne Affrica a Cape Peninsula University of Technology, ac wedi dod ar draws sawl rhywogaeth newydd o fwydod gwrychog morol. 

Dechreuodd y project yn 2023, ac fe’i hariannwyd gan Grant Cyfnewidiadau Rhyngwladol y Gymdeithas Frenhinol. Roedd hynny’n caniatáu i ni gydweithio wrth edrych ar y grŵp pwysig, ond llai adnabyddus, hwn o anifeiliaid.

O holl fywyd ein cefnforoedd, efallai nad mwydod gwrychog morol, neu polychaetes (eu henw gwyddonol), yw'r cyntaf sy'n dod i'r meddwl. Fodd bynnag, maen nhw'n rhan hanfodol o iechyd ein cefnforoedd ac yn ffynhonnell fwyd bwysig i lawer o anifeiliaid eraill. Felly, er nad yw llawer o bobl yn gwybod rhyw lawer yn eu cylch, mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu mwy amdanyn nhw – a faint o rywogaethau sydd yna. Er nad yw'r enw 'mwydyn' o reidrwydd yn creu delweddau o rywogaethau pert, rydyn ni’n hoffi meddwl bod llawer o fwydod gwrychog morol yn dipyn o bictiwr.

Yn anffodus, er gwaethaf eu pwysigrwydd, dydyn ni ddim yn gwybod faint o rywogaethau sy’n bodoli hyd yn oed, er bod o leiaf 12,000 o rywogaethau gwahanol ledled y byd! Felly dyna’r dasg i wyddonwyr Amgueddfa Cymru! Rydyn ni, Dr Teresa Darbyshire a Katie Mortimer-Jones, yn arbenigwyr ar fwydod gwrychog morol ac wedi bod yn gweithio gyda dau wyddonydd o Dde Affrica, Dylan Clarke a Dr Jyothi Kara, ar broject i geisio darganfod mwy am natur rhai o'r mwydod hyn.

Er bod arolygon wedi'u cynnal dros y ddwy ganrif ddiwethaf, efallai y byddwch chi’n synnu o glywed ein bod ni'n dal i ganfod rhywogaethau newydd yn y DU. Yn yr un modd, er bod Prifysgol Cape Town wedi gwneud llawer o waith o amgylch De Affrica yn y 1950au a'r 1960au, mae tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu y gallai fod 500 a mwy o rywogaethau o fwydod gwrychog morol heb eu henwi a heb eu darganfod. Gan ystyried hyn, fe wnaethon ni fel tîm o wyddonwyr gychwyn ar broject i ymchwilio i fwydod gwrychog morol yn y ddau ranbarth i weld a oedd modd datgelu rhywfaint am y fioamrywiaeth gudd hon. Daeth Dylan a Jyothi draw i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym mis Mai 2023 ac fe aethon ninnau i Amgueddfa Iziko yn Ne Affrica ym mis Mehefin.

Mae casgliadau amgueddfeydd yn rhan hanfodol o waith fel hyn, gan eu bod nhw'n gofnod unigryw o rywogaethau a chynefinoedd sy'n bresennol ar unrhyw adeg benodol. Maen nhw'n galluogi gwyddonwyr i gymharu sbesimenau tebyg i weld a ydyn nhw'n dod o un rhywogaeth neu fwy. Felly, fel tîm, doedd dim rhaid i ni grwydro'n bell o'n hamgueddfeydd i ddod o hyd i'r union beth roedden ni'n chwilio amdano. 

Buon ni'n brysur gydol 2023 yn tynnu lluniau, yn gwneud darluniau, ac yn disgrifio'r rhywogaethau newydd roedden ni wedi'u darganfod. Un o elfennau mwyaf cyffrous y project oedd penderfynu ar enwau ar gyfer y rhywogaethau newydd. Dyma benderfynwyd: 

1) Magelona ekapa, rhywogaeth o fwydyn rhawben o'r Western Cape, sy'n cael ei enw o'r gair eKapa, sy'n golygu 'tarddu o'r Cape’, yn iaith Xhosa.
2) Arabella ampulliformis, o Ddyfnaint, sy'n cael ei enw o'r gair ampulliform, yn disgrifio rhan siâp fflasg y mwydyn.
3) Arabella umgazanae, a gasglwyd o'r arfordir i'r de o afon Mngazana (a elwid gynt yn Umgazana) yn yr Eastern Cape, De Affrica.

Fe wnaethon ni fwynhau rhannu ein canlyniadau cychwynnol yn y 14eg Cynhadledd Polychaete Ryngwladol yn Stellenbosch ym mis Gorffennaf 2023, ac mae'r canlyniadau llawn newydd gael eu cyhoeddi mewn dau bapur gwyddonol a adolygwyd gan gymheiriaid yn y cyfnodolyn African Zoology. Mae'r papurau'n darparu allweddi adnabod ar gyfer sawl grŵp o fwydod gwrychog morol yn Ne Affrica, a disgrifiadau manwl o rywogaethau niferus. Gobeithio y bydd hyn yn golygu bod modd datgelu rhywogaethau newydd pellach drwy ddarparu cymariaethau manwl o anifeiliaid, yn ogystal â hyrwyddo'r dull cywir o adnabod anifeiliaid yn y ddwy wlad. 

Un o'r rhesymau pwysig y mae gwyddonwyr o Gymru yn astudio rhywogaethau, gartref a thu hwnt, yw deall dosbarthiad pob rhywogaeth. Os caiff rhywogaeth newydd ei ddarganfod mewn rhanbarth, mae hefyd yn ein helpu i gydnabod a yw'n wirioneddol newydd i fyd gwyddoniaeth, neu'n rhywogaeth anfrodorol sydd wedi'i chludo ledled y byd mewn ffordd artiffisial? Os mai rhywogaethau goresgynnol ydyn nhw, maen nhw’n gallu cael effaith niweidiol, felly mae angen i ni wybod hynny cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn arbennig o bwysig gyda newid hinsawdd. 

Felly, y tro nesaf ewch chi am dro i'r traeth, meddyliwch am y mwydod gwrychog morol bendigedig o dan eich traed a'u cyfraniad pwysig at gadw ein cefnforoedd yn iach – a chofiwch hefyd fod gwyddonwyr Amgueddfa Cymru yn gweithio'n galed i helpu i'w darganfod a'u gwarchod.

Gan yr Uwch Guraduron, Kate Mortimer-Jones a Teresa Darbyshire

I wybod mwy, ewch i:

Untangling the Magelonidae (Annelida: Polychaeta) of southern Africa, including the description of a new species: African Zoology: Vol 0, No 0 (tandfonline.com)

Redescription of Arabella iricolor (Montagu, 1804) with descriptions of two new species from the United Kingdom and South Africa: African Zoology: Vol 0, No 0 (tandfonline.com)

Katie Mortimer-Jones

Uwch Guradur: Anifeiliaid Di-asgwrn-cefn Morol
Gweld Proffil
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.