Hafan y Blog

Adennill Straeon trwy Ymyriadau Creadigol yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Nasia Sarwar-Skuse, 29 Awst 2024

Safbwynt(iau): Dadwladychu Treftadaeth 
Project dadwladychu a gomisiynwyd gan Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru yw Safbwynt(iau). A minnau'n brif artist yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, rydw i wedi bod yn cydweithio â Ways of Working, corff celfyddydol sy'n gymdeithasol ymwybodol, er mwyn ail-ddychmygu’r amgueddfa yn ofod lle gellid cynnal a datgymalu naratifau grym.

⁠Dadwladychu'r Amgueddfa: Wynebu Gwaddol Cymhleth 
Dechreuwyd ein project trwy ofyn cwestiwn sylfaenol: a all amgueddfa, sefydliad sydd â'i gwreiddiau'n ddwfn yn hanes gwladychu, fyth gael ei ddadwladychu mewn gwirionedd? Yng ngeiriau enwog Audre Lorde, 'Ni fydd offer y meistr fyth yn datgymalu tŷ'r meistr.' Dyma ddangos cymhlethdod dadwladychu a'r angen brys sydd i'r gwaith. Rhaid i ni edrych ar y straeon a adroddir a dirnad straeon pwy ydynt, lleisiau pwy sy'n cael eu clywed a gwaddol pwy sy'n cael eu cydnabod o fewn y gofodau hyn. O fewn sefydliad, gall dadwladychu ddigwydd mewn nifer o ffyrdd – o greu gweladwyedd a chynhwysedd i ddatganoli naratifau sydd wedi cael lle amlwg – a gellir ei wneud mewn ffordd sy'n cadw digon o le i empathi hefyd.

Cafodd y sgyrsiau hanfodol hyn eu cyfoethogi gan fewnbwn yr Athro Corrine Fowler, arbenigwr yng ngwaddol gwladychiaeth a Nusrat Ahmed, Prif Guradur Oriel De Asia yn Amgueddfa Manceinion. Roedd eu harbenigedd yn ein tywys wrth i ni ymrafael â chymhlethdod dadwladychu yn Sain Ffagan.

Creu Gweladwyedd yn Sain Ffagan 
⁠Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn adrodd hanes pobl Cymru. Ond wrth i mi gerdded trwy'r neuaddau, nid oeddwn yn gallu gweld olion fy nhreftadaeth innau. ⁠Daeth yr absenoldeb hwn yn rhan ganolog o'n gwaith. Gofynnon ni hyn: pwy sy'n cael eu cynrychioli yma? Straeon pwy sydd yma, a straeon pwy sydd ar goll?

Gwahoddwyd Cydweithfa Trindod Aurora – grŵp llawr gwlad dan arweiniad menywod lliw sy'n creu celf tecstilau a brodwaith - i ymuno â ni er mwyn ffurfio ymateb. Cynhaliodd y grŵp weithdai tecstilau yn neuadd groeso'r Amgueddfa, gan roi llwyfan i'w gwaith Ncheta sy'n archwilio cof, iaith a phwysigrwydd diwylliannol tecstilau.⁠ Trwy eu presenoldeb, roeddem yn adennill gofod a oedd wedi anwybyddu eu cyfraniadau tan nawr.

Dadlennu Gwaddol Gwladychiaeth yng Nghastell Sain Ffagan

Mae llawer o fy ngwaith celf yn deillio o waith ymchwil, ac mae hyn yn aml yn gorgyffwrdd â fy ngwaith academaidd. Wrth ymchwilio, darganfyddais gysylltiad uniongyrchol rhwng Castell Sain Ffagan a Clive o India. Priododd ŵyr Clive, Robert Clive, Harriet Windsor, a daeth y teulu Windsor-Clive yn gyfoethog ar gefn gwladychiaeth. Y cyfoeth hwn dalodd am waith adfer sylweddol yng Nghastell Sain Ffagan, gan selio gwaddol gwladychiaeth ym mêr y muriau.

Er mwyn treiddio'n ddyfnach i'r hanes hwn, gwahoddwyd Bethan Scorey i rannu ei gwaith ymchwil – mae ei phroject doethuriaeth yn canolbwyntio ar hanes gerddi a phensaernïaeth Castell Sain Ffagan. ⁠Gyda'r cyfoeth eang hwn o wybodaeth i'n helpu, aethom ati i ddadlennu'r gwreiddiau gwladychol sy'n parhau i siapio naratif y castell.

Canolbwyntiodd ein hymyriadau creadigol ar y gwaddol hwn, yn enwedig y rheini oedd yn gysylltiedig â Robert Clive, 'Clive o India'. Taflodd y project oleuni ar gysylltiad Cymru ag imperiaelaeth Prydain – cysylltiad sy'n dal i guddio yn yr amlwg ac sy'n aml yn cael ei hepgor.

Ymgysylltu ag Ymwelwyr: Gosodiadau Rhyngweithiol 
Mae ein hymyriad cyntaf mewn lle amlwg yn neuadd groeso'r Amgueddfa, ac rydym yn gwahodd ymwelwyr i ymgysylltu'n uniongyrchol â gwirionedd anghysurus gwladychiaeth. Trwy ofyn cwestiynau fel 'Roedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn...?', a 'Beth yw swyddogaeth amgueddfa o fewn cymdeithas?', rydym yn annog y cyhoedd i feddwl am rym, hanes a rôl esblygol amgueddfeydd. Taniodd y gosodiad rhyngweithiol hwn – oedd yn defnyddio nodiadau gludiog fel lle i ymwelwyr rannu eu meddyliau – sgyrsiau ystyrlon ac mae'n sicrhau fod gwladychiaeth yn aros yn eu meddyliau wrth iddyn nhw brofi'r amgueddfa.

Gwaddol Gwladychiaeth yn yr Ystafell Fyw 
Roedd ein hail osodiad yn ail-greu ystafell fyw De Asiaidd Prydeinig, sef atgof personol o fy mhlentyndod yn y 1980au. I lawer o deuluoedd diaspora, roedd yr ystafell fyw yn hafan – yn lle i gymuned ac i ddathlu, ac yn noddfa o atgasedd y byd tu allan. Yn ganolbwynt i'r olygfa gyfarwydd hon, gosodwyd soffa bren euraidd o'r 18fed ganrif o eiddo Clive o India. Cafodd ei gaffael gan Amgueddfa Cymru yn y 1950au, ac mae ei arwyddocâd gwladychol wedi cael ei anwybyddu i raddau helaeth ers degawdau. Trwy roi'r gwrthrych hanesyddol hwn mewn golygfa ddomestig, yng nghanol lluniau teuluol a gwrthrychau personol, rydyn ni wedi hawlio'r naratif yn ôl gan gychwyn sgyrsiau am wladychiaeth, atgof, a sut mae hanes yn cael ei gofio a'i anghofio.

Ail-ddychmygu Palas Breuddwydion Tipu Sultan 
Mae ein trydydd gosodiad, Khawaab Mahal (Palas Breuddwydion) yn ailddychmygu pabell Tipu Sultan a gafodd ei ysbeilio gan fab Clive, Edward Clive, wedi i Tipu gael ei ladd mewn brwydr. ⁠Daeth y babell hardd, sydd nawr yn byw yng Nghastell Powys, yn symbol o ormes Prydain. Byddai'n aml yn cael ei ddefnyddio ar gyfer partion gardd, sy'n sarhad ar ei bwrpas gwreiddiol. Rydym wedi creu ailddehongliad gan ddefnyddio delweddau digidol o'r babell wreiddiol wedi'u hargraffu ar ddefnydd. Mae dyfyniadau o ddyddiadur breuddwydion Tipu hefyd wedi'u hargraffu ar ochr fewn y babell. Roedd ei freuddwydion yn llawn o'i ddymuniad i drechu'r Prydeinwyr, a thrwy'r gosodiad hwn, roeddwn i'n cael sgwrs bersonol yn uniongyrchol ag e. Gwahoddir ymwelwyr i gamu i fyd Tipu, i ganol seinwedd a breuddwydion, gan adennill gofod a ddygwyd trwy drais.

Presenoldeb Absennol: Adennill Gofod trwy Ffilm 
Ffilm benodol i'r safle yw'r pedwerydd gosodiad, Presenoldeb Absennol, gafodd ei ffilmio ar diroedd Castell Sain Ffagan. ⁠⁠Y ddawnswraig Sanea Singh sy'n serennu ac mae'r ffilm yn myfyrio ar orffennol gwladychol y castell. Mae symudiadau llyfn Sanea yn dod yn rhan o bensaernïaeth a gerddi Sain Ffagan, ac mae hi'n adennill y gofod fel gofod iddi hi. Mae'r ffilm yn trafod themâu ysbail, gwrthryfel a straeon De Asia a gafodd eu celu, gan greu cysylltiad rhwng heddiw a ddoe.

Adennill Hanesion ac Ailysgrifennu'r Naratif 
Trwy'r gosodiadau hyn, rydyn ni'n ceisio datgymalu'r naratifau amlycaf o gwmpas Castell Sain Ffagan ac adennill y straeon sydd wedi'u dileu. I mi, ac i grŵp Ways of Working, mae Safbwynt(iau) yn gymaint mwy na phroject – rydym yn hawlio ein hanes yn ôl, yn cynnal sgwrs ar draws canrifoedd ac yn galw am gydnabod gwaddol parhaus gwladychu sy'n dal wrth wraidd ein sefydliadau heddiw. Trwy wynebu'r gwaddol hwn, gallwn ddechrau ailffurfio sut yr ydyn ni'n cofio a phwy sy'n cael adrodd straeon ein hanes ni oll. 
 

Ellen Davies

Swyddog Marchnata Cyfathrebu
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.