Straeon y Streic: Sian James (ymgyrchydd a gwleidydd)
10 Chwefror 2025
,Yn y gyfres yma o Straeon y Streic fe glywn ni am y gorau a gwaetha o fywyd yn ystod y flwyddyn a newidiodd fywydau glowyr, eu teuluoedd, yr heddlu a gwleidyddion wrth iddynt hel atgofion am beth oedd bywyd fel rhwng 84-85.
Mae Straeon y Streic yn rhan o arddangosfa Streic 84-85 Strike sydd i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan Ebrill 27 2025.
© Imogen Young
Sian James, ymgyrchydd a gwleidydd.
Roeddwn i wedi priodi yn 16 oed, gyda dau o blant erbyn o’n i’n 20 oed, a gŵr oedd yn gweithio dan ddaear. O fewn dwy flynedd o ddechrau ei waith, roedd wedi pleidleisio i gefnogi Scargill ar gyfer yr NUM ac roedd y teulu cyfan yn ei gefnogi. Scargill oedd ein harweinydd, byddai’n brwydro ar ein rhan ac roedden ni’n hynod ffyddlon. Gwnaethon ni ddim petruso pan ddaeth y streic.
Fe safon ni’n gadarn. Byddech chi ddim yn croesi llinell biced. Doedd ein teulu ddim yn deall y rheiny oedd yn gwneud. Roedd pobl yn dweud, ‘wel, mae’n galed...’ ond sut wnes i bara ar £20 yr wythnos gyda dau o blant? Fe wnaethon ni wneud drwy drefnu ein hunain o fewn ein cymunedau. Nid jyst fi a fy nghymuned, ond miloedd o fenywod.
Doedd y realiti ddim yn hawdd: cuddio tu ôl i’r soffa rhag y dyn rhent. Clywed y fan hufen ia tu fas a dweud wrth fy merch nad oedd digon o arian. Byddai hi’n dweud wrth fy ngŵr i neidio i fyny ac i lawr. Byddai’n gallu clywed y newid yn ei boced. Roedd yn newid byd ar gyfer ein teulu.
Dim ond y pethau angenrheidiol fyddai’n cael eu prynu. Byddai dyled yn gysgod drosom ni, ond dim ni oedd yr unig bobl yn dioddef o hynny. Byddai pawb yn cymryd rhan faint bynnag y gallem ni. Aethon ni ati go iawn. Roedd trobwynt amlwg i mi. Ym mis Awst, dechreuodd Thatcher a MacGregor ddisgrifio ni fel ‘y gelyn yn ein mysg’. Doeddwn i ddim yn elyn i neb. Roedden ni jyst eisiau cadw ein cymunedau cariadus.
Roedden ni’n gwybod sut oedd e’n gweithio, sut oedd yn cael ei redeg.
Roeddwn i wedi synnu pa mor filwriaethus o’n i wedi dod. Y cyffro o gwrdd â menywod oedd yn brwydro ac yn meddwl fel fi, ochr yn ochr. Y peth ydy, allen nhw ddim cyffwrdd ni, ein diswyddo ni – gan nad oedden ni’n gweithio iddyn nhw.
Gwnaethon ni siarad ar lwyfannau ar hyd y lle. Swydd Nottingham, Swydd Derby. Roedd pawb wedi clywed stori’r dynion: roedden ni’n llais newydd. Trodd y sylw at sut oedd teuluoedd yn trefnu eu hunain. Adroddon ni stori’r menywod: rydyn ni yma gyda’n gilydd. Pan wnaethon ni ddechrau cael gwahoddiadau i siarad yn gyhoeddus, gwnaethon ni ddechrau gofyn am ychydig mwy. Fy rôl i oedd trefnu a chodi arian.
Roedd gennym ni rywfaint o reolau i’r grŵp cymorth.
- Roedd pob ceiniog o’r arian a godwyd yn mynd i’r pot.
- Roedd pawb yn cael yr un faint o’r pot. P’un a oedd ganddyn nhw blant neu ddim.
- Pe byddech chi’n troi fyny i’r cyfarfod prynhawn Sul, byddai’n rhaid i chi bleidleisio.
Yn y cyfrinfeydd, dim ond aelodau – y dynion – allai bleidleisio. Ond yn fwyaf sydyn, roedd galw am farn y menywod.
Ni oedd Grŵp Cymorth Glowyr Cymoedd Nedd, Dulais a Thawe. Roedd gennym ni ddeg ganolfan fwyd yn bwydo unrhyw faint rhwng 30 a channoedd o lowyr. Ond yn fuan, roedden ni’n bwydo dros fil o deuluoedd, am £8 y bag, erbyn yr adeg ddaethon ni i ben.
Gwnaeth yr holl beth drawsnewid fy mywyd. Pan ddaeth y grwpiau hoyw a lesbiaidd allan i gefnogi’r glowyr, daethon nhw â lefel hollol newydd o brofiad ac arbenigedd: roedden nhw’n bobl oedd wedi gorfod brwydro am gyfiawnder, roedden nhw wedi arfer. Ac fe wnaethon nhw ein helpu ni mewn ffyrdd anhygoel. Roedden nhw’n sosialwyr ac ymgyrchwyr da. Roedden nhw’n deall y system. Mae’r bobl wnaeth ein cefnogi ni o’r grwpiau hynny adeg hynny, yn dal yn ffrindiau i mi heddiw.
Dwi’n aml yn dweud: roedd fy streic i yn streic dda. Roeddwn i wedi dychryn ei fod am fynd yn ôl i sut yr oedd ynghynt, i fod yn onest. Ond fe es i’r Brifysgol, datblygu enw fel sylwebydd ar y cyfryngau ar S4C, gan fy mod yn siarad Cymraeg – dyna oedd iaith y dynion oedd yn gweithio dan ddaear. Fe es i ymlaen i weithio mewn materion cyhoeddus, yn gweithio i bob math o gwmnïau gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Achub y Plant a Cymorth i Ferched Cymru cyn sefyll a chael fy ethol i Senedd y DU yn 2005.
Yn ystod y streic, ges i gyfle i siarad ag areithwyr, menywod ar streic fel fi ledled y wlad. Roedden ni gyd angen rhoi bwyd ar y bwrdd. Roedden ni gyd angen dal i fynd. Ond wir yr, wnes i gyfarfod cymaint o bobl hyfryd, menywod a dynion. Gofynnodd rhywun i Julia Gillard un tro beth oedd ei chyngor gorau ar gyfer ei wyres 14 oed. A’i hateb oedd: ‘Paid â gadael i neb dy ddistewi.’ A dyna’r peth. Mae menywod cegog yn newid y byd.