1984: Y flwyddyn aeth Margaret Thatcher benben â’r cymunedau glofaol.
Arweiniodd haf llawn gobaith a gwrthsefyll angerddol at aeaf o drais, caledi, colli bywoliaeth - a bywydau - ledled rhai o gymunedau mwyaf gwydn Cymru. 40 mlynedd yn ddiweddarach, mae effaith Streic y Glowyr yn parhau. O luniau a phlacardiau protest i straeon personol o frawdoliaeth yn eu brwydr yn erbyn byd oedd yn prysur newid, mae’r arddangosfa bwysig hon yn taflu goleuni ar Streic y Glowyr a’i effaith hynod ar ein gwlad.
Dewch i weld angerdd a thensiwn y brotest.
Tocynnau
I wneud yr arddangosfa hon yn hygyrch i bawb, rydym yn eich annog i dalu'r hyn y gallwch.
Mae hyn yn golygu, yn lle pris tocyn penodol, y gallwch dewis talu swm sy'n gweddu'ch amgylchiadau chi. Rydym yn awgrymu £10 ond mae unrhyw swm y gallwch ei dalu, o £3, yn golygu y gallwn creu ffyrdd newydd, ysbrydoledig i bobl fwynhau'r casgliad cenedlaethol.
Yn rhad ac am ddim i Aelodau!
Ymunwch heddiw a mwynhewch gynigion arbennig a buddion gan gynnwys mynediad am ddim i arddangosfeydd sydd rhaid talu amdanynt a gwybodaeth ymlaen llaw am ddigwyddiadau.
Mae Ymgyrchu NAWR! ar y naill law yn gyflwyniad i’r math o ymgyrchu sy’n digwydd, nawr, yng Nghymru, ac yn alwad agored i gymryd rhan, i weithredu, i fod yn rhan o rywbeth mwy na chi eich hun. Cliciwch ar y linc i ddarllen mwy.
Diolch
Mae rhaglen arddangosfeydd Amgueddfa Cymru wedi bod yn bosibl diolch i chwaraewyr People’s Postcode Lottery.
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd