Straeon y Streic: Richard Williams (ffotograffydd) ac Amanda Powell (newyddiadurwraig)
8 Ionawr 2025
,Yn y gyfres yma o Straeon y Streic fe glywn ni am y gorau a gwaetha o fywyd yn ystod y flwyddyn a newidiodd fywydau glowyr, eu teuluoedd, yr heddlu a gwleidyddion wrth iddynt hel atgofion am beth oedd bywyd fel rhwng 84-85.
Mae Straeon y Streic yn rhan o arddangosfa Streic 84-85 Strike sydd i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan Ebrill 27 2025.
Richard, ffotograffydd
Roeddwn i’n ffotograffydd i’r wasg yn ystod y Streic, yn gweithio yng nghymoedd glofaol y De o ‘nghwmpas. Byddwn i’n cael galwad pan fyddai llinell biced yn cael ei thorri, er enghraifft.
Un o’r dyddiau mwyaf cofiadwy oedd yng Nghwm Garw, pan ddaeth Monty Morgan y glöwr cyntaf yng Nghymru i dorri’r streic. Daeth cannoedd o heddlu a phicedwyr allan. Roedd Monty’n teimlo bod y Streic yn mynd yn ofer, wnaeth ei yrru yn ôl i’r gwaith. Roedd llawer o ddicter – roedd bywoliaeth pobol yn y fantol. Cafodd e sioc faint o ddicter oedd tuag ato fe. Ond un o bant oedd e, Sais oedd yn arfer bod yn y fyddin, ac efallai nad oedd e’n deall y teimlad o gymuned yno.
Mae un o’n lluniau yn dangos y bws oedd yn ei yrru i’r lofa, gyda channoedd o heddlu o’i hamgylch. Safodd un glöwr dewr o flaen y bws, a chael ei arestio. Wrth ymchwilio i’n llyfr fe lwyddon ni i ganfod y glöwr. Roedd ganddo fe blant, ac roedd e’n gwybod bod pobl yn cael eu harestio’n gyson. Er gwaetha’r cyfan, roedd e’n dal mewn hwyliau da, hyd yn oed dan glo.
Yn gynharach yn y flwyddyn roeddwn i wedi tynnu llun o’r Prif Weinidog Margaret Thatcher yng nghynhadledd y Torïaid ym Mhorthcawl, gyda channoedd o brotestwyr crac a rhwystredig tu ôl i ffensys dur ar hyd y prom. Ar ôl ei haraith, dyma hi’n cael ei phledio ag wyau o’r dorf wrth adael yr adeilad. Cyrhaeddodd un wy y nod, cyn i’r heddlu godi ambarél a’i rhuthro ymaith.
Roedd hi’n amser tanllyd, gydag emosiynau’n gorlifo, oedd yn hollol ddealladwy gan y byddai colli’n golygu newid am byth i gymunedau’r ardal. Wrth i’r gaeaf gyrraedd aeth pethau’n anoddach, a glowyr mewn rhai ardaloedd yn dechrau mynd yn ôl, roedd y streic yn ne Cymru yn syndod o gadarn.
Amanda, newyddiadurwraig
Dwi o deulu glofaol yng Nghwm Rhymni yn wreiddiol, ac roedd hi’n teimlo’n bwysig i atgoffa pobl o’r straeon hyn a’r heriau wnaeth pobl eu hwynebu. Rydyn ni gyd yn bwrw ‘mlaen nawr.
Yr hyn wnaeth dynnu fy sylw i oedd rôl menywod yn y Streic: sut wnaethon nhw drefnu a dechrau codi eu llais. Yn 2023 fe wnes i gyfweld menyw oedd yn aelod o un o grwpiau cymorth y glowyr. Roedd hi’n berson digon swil, wnaeth gael ei pherswadio i siarad mewn cyfarfod codi arian mawr ym Maesteg o flaen torf oedd yn cynnwys aelodau seneddol ac arweinwyr glofaol. Newidiodd hi fel person. Ac mae hi, a llawer o bobl wnes i siarad â nhw, yn teimlo’r un mor gryf am y Streic heddiw. Pob un wan jac yn dweud y bydden nhw’n ymladd yr un modd.
Mae fy mrawd, oedd yn gyn-löwr, yn disgrifio’r hiwmor iach yn y pwll oedd yn cadw pobol i fynd mewn proffesiwn peryglus lle’r oedd yr agwedd at iechyd a diogelwch yn eithaf llac ar brydiau. Mae cyfoeth o straeon. Roedd anafiadau’n gyffredin, ac weithiau byddai’r golchfeydd (lle byddai’r glo’n cael ei brosesu) yn cyflogi glowyr allai ddim gweithio dan ddaear bellach. Yn ein llyfr rydyn ni’n rhannu stori gweithiwr golchfa anabl, gaeth ei anafu pan dorrodd y cawell oedd yn mynd ag e dan ddaear a phlymio i waelod y siafft.
Dyw llawer o’r bobl yn y llyfr ddim gyda ni bellach, a llai fyth i adrodd y straeon yn y dyfodol, felly mae’n hanfodol i ni wneud hynny nawr er mwyn i’r genhedlaeth iau ddeall dros beth oedd eu teuluoedd yn brwydro.