Hafan y Blog

Gwyrth y Gwanwyn

Gareth Bonello, 27 Ebrill 2010

Ar ôl un o’r gaeafau oeraf a hiraf a gofnodwyd erioed, mae’r gwanwyn wedi cyrraedd o’r diwedd. Dros yr wythnosau diwethaf mae’r tywydd wedi bod yn gynhesach na nifer o hafau diweddar. Golyga hyn, ynghyd â’r ffrwydradau o flodau sydd i’w gweld ymhob cae, gardd a hollt yn y pafin bod y gwanwyn hwn yn argoeli i fod yn drawiadol dros ben.

Wedi gaeaf hirach nag arfer mae nifer o rywogaethau sydd fel arfer yn blodeuo’n gynnar yn y tymor wedi ymatal tan nawr. Er enghraifft y Cenau Cyll (‘Cynffonnau Ŵyn Bach’ i chi a fi), a flodeuodd yma ddiwedd Ionawr 2009, ond na ddechreuodd ddod i’r golwg nes dechrau Mawrth eleni. Yn Sain Ffagan mae’r blodeuo hwyr wedi golygu bod sawl rhywogaeth gynnar a hwyr yn blodeuo gyda’i gilydd; Eirlysiau, Llysiau’r Llew, Cennin Pedr a Chlychau’r Gog, felly mae gwledd a hanner i’r llygaid ar hyn o bryd! Am erthygl ddifyr am y tywydd anarferol eleni a’r goblygiadau i fywyd gwyllt cliciwch yma.

Ond mae’r gwanwyn yn fwy na blodau, ac mae crïoedd yr adar wedi bod yn cryfhau wrth i’r tywydd wella. Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan mae ein cyfeillion pluog yn ceisio denu cymar a gwarchod eu tiriogaeth drwy ganu mor uchel ac mor aml â phosibl. Wedi cyflawni’r dasg hon rhaid iddynt adeiladu nyth a magu nythaid (neu ddwy hyd yn oed os oes ganddynt ddigon o egni). Mae hyn yn fy arwain at newyddion cyffrous sydd gen i am y Titw Mawr sy’n nythu yn ein blwch nythu arbennig. Ar hyn o bryd adeiladu’r nyth a chlwydo yno yn y prynhawn yn unig y mae hi, ond unwaith y bydd yn dodwy wyau (dyma fi’n croesi ‘mysedd) bydd yn hynod o gyffrous! Byddaf yn cadw llygad barcud ar ddigwyddiadau ac yn rhoi unrhyw newyddion ar fy nhudalen Twitter – felly agorwch gyfrif os hoffech dderbyn ‘tweets’ am ein nythaid o gywion ar Twitter!

Mae nifer o adar wedi hedfan o’r cyfandir, neu hyd yn oed Affrica, i fanteisio ar yr holl bryfaid sy’n deor yma yr adeg hon o’r flwyddyn. Teloriaid fel y Siff-saff, yr Helygddryw, Telor y Coed a’r Telor Penddu yw’r mwyafrif o’r adar mudol hyn, ac maent yn ychwanegu digonedd o leisiau newydd i gorws y wawr, sydd ar ei orau ar hyn o bryd. Mae ambell le ar ôl ar daith corws y wawr dydd Sadwrn, os ydych chi awydd codi’n gynnar a mynd am dro o amgylch Sain Ffagan.

Ta waeth, mae’n well i mi ei throi hi. Ond gwnewch yn siŵr eich bod chi’n galw’n ôl yn fuan oherwydd mae’n mynd i fod yn dymor prysur!

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.