Straeon y Streic: Stephen Smith (glöwr)
17 Chwefror 2025
,Yn y gyfres yma o Straeon y Streic fe glywn ni am y gorau a gwaetha o fywyd yn ystod y flwyddyn a newidiodd fywydau glowyr, eu teuluoedd, yr heddlu a gwleidyddion wrth iddynt hel atgofion am beth oedd bywyd fel rhwng 84-85.
Mae Straeon y Streic yn rhan o arddangosfa Streic 84-85 Strike sydd i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan Ebrill 27 2025.
© Mike Thompson
Stephen Smith (cyn löwr, pwll y Maerdy)
Fi oedd un o’r prentisiaid olaf i ddechrau gyda’r Bwrdd Glo Cenedlaethol, a dyma fi’n beni lan yn gweithio ym mhwll y Maerdy. Roeddwn i braidd yn ddrwg yn yr ysgol, ac fe nes i ymgeisio i fod yn brentis nwy, telecom, pob math o bethau. Fi yw’r pumed genhedlaeth mewn teulu glofaol, ac fe ddilynais i yn ôl eu traed yn y diwedd. Fe enillais i brentisiaeth crefft glofa yn 17 oed, oedd yn eich paratoi chi i fod yn rheolwr yn y pen draw.
Fydda i byth yn anghofio’r diwrnod cyntaf dan ddaear. Roedd fy stumog i’n troi wrth i’r cawell ddisgyn lawr y siafft.
Roedden ni ar streic mwy neu lai bob blwyddyn ar ôl i fi ddechrau, fel arfer dros dâl ac amodau. Ond roedd Streic ‘84 yn wahanol. Y tro hyn roedden ni’n ymladd dros ein swyddi a dros y cymunedau glofaol.
Fi oedd un o’r rhai lwcus – doedd gen i ddim teulu i’w gadw ac roeddwn i’n dal i fyw adref. Gorfododd Dad i fi dalu rhent drwy’r streic – yn ôl fe, os oeddwn i am gefnogi dylsen i brofi caledi diffyg arian yn union fel pawb arall oedd ar streic.
Dyma ni’n pleidleisio i ddod mas ar y dydd Sul yn Neuadd y Gweithwyr y Maerdy. Roedd cyfryngau’r byd ar stepen y drws yn aros i weld os fydden ni’n cefnogi glowyr Swydd Efrog (yn Cortonwood ddechreuodd y streic). Ac fe bleidleision ni i fynd ar streic.
Dechreuon ni deithio i byllau eraill ac ymuno â llinellau piced i geisio atal y bois rhag mynd i’r gwaith a’u perswadio nhw i ymuno â ni. Yn aml, byddai’r heddlu yn ein troi ni nôl cyn cyrraedd – roeddwn i’n siŵr bod ein ffonau ni wedi tapio, achos doedd dim ffordd iddyn nhw wybod pa hewlydd bach fydden ni’n eu cymryd fel arall. Unwaith, dyma nhw’n ein stopio ni a bygwth arestio gyrrwr y bws os fyddai e’n mynd â ni ymhellach. Felly dyma ni’n gadael y bws ganol nos a cherdded drwy’r glaw mân i’r pyllau oedden ni fod i bicedu.
Cafodd deddf newydd ei chyflwyno – Deddf Tebbit – oedd yn gwahardd picedu mewn grwpiau o fwy na chwech. Weithiau bydden ni’n torri’r ddeddf! Yng Nglofa Newstead, pan dorron ni’r llinell, fe ddaliodd ryw goper fy mys i a’i blygu nôl, cyn plygu ‘mraich tu ôl i ‘nghefn. Wedyn daeth coper arall a ‘mhwnio i yn fy ysgwydd, cyn fy nhaflu i gefn fan heddlu. Fe ges i ‘nghymryd i’r stesion a’n rhoi mewn cell gyda llond llaw arall o’r pwll. Tua 3 y bore dyma fi’n cael fy nghymryd o’r gell a’n holi gan y CID, wnaeth ddechrau drwy holi ‘Wyt ti’n aelod o’r Blaid Gomiwnyddol? Wyt ti’n cefnogi Scargill?’ ac yn y blaen. Roedden ni mewn dros nos. Yn y bore dyma ni’n cael tafell o dost a rhywbeth oedd yn edrych fel te cyn cael ein hanfon i’r llys mewn gefynnau, oedd yn brofiad bychanol. Dywedodd yr Arolygydd Heddlu wrth y llys fod tua hanner cant o bobl, a taw fi oedd yr arweinydd wnaethon nhw’i dynnu allan o’r picedwyr. Celwydd oedd hyn.
Dyma nhw’n fy nghyhuddo i o Darfu ar yr Heddwch, a chyngor cyfreithiwr yr NUM oedd: ‘Pledia’n euog, neu byddan nhw’n mynd â ti bant. Bydd yr NUM yn dalu’r ddirwy.’ Roeddwn i’n dal yn fy arddegau, felly dilyn y cyngor wnes i a phledio’n euog, cyn i’r datganiadau gael eu darllen hyd yn oed. Dywedodd yr Ynad, tasen i’n ymddangos o’i flaen eto byddai’n fy anfon i’r ddalfa yn Risley (Grisley Risley oedd enw pobl ar y lle).
Roedd e’n amser caled. Weithiau byddai’r heddlu yn cicio’n coesau a sathru ar ein traed, felly bydden ni’n gwisgo’n sgidiau gwaith i amddiffyn ein hunain. Unwaith, dechreuodd ryw goper fwrw ‘mhen i yn erbyn bonet car dro ar ôl tro. Roedd y wasg yno, a dyma fi’n gweiddi ‘Gobeithio byddwch chi’n gohebu ar hyn!’. Ond roedd y wasg yn ein herbyn ni, ac yn ein paentio ni fel rhyw griw treisgar! Y wladwriaeth a’r heddlu oedd y criw treisgar, a dylai fod ymchwiliad i rôl y Llywodraeth yn y streic a thrais yr heddlu.
Roedden ni’n ymladd am flwyddyn gyfan – am ein swyddi, a dros ein cymunedau hefyd. Mae mynd dan ddaear yn adeiladu brawdoliaeth anhygoel o gryf, ac roedd pawb yn gefn i’w gilydd. Roedd e’n adeiladu cymeriad, a phawb yn yr un cwch – cyn, yn ystod, ac ar ôl y streic. Byddai pawb yn gweithio yn y Pwll, neu yn yr ardal, a’r effaith yn bellgyrhaeddol. Fe ges i wahoddiad i siarad mewn digwyddiad codi arian yn Rhydychen. Dyma nhw’n codi lot fawr o arian i ni ac yn anfon parseli bwyd.
Yr unig beth dwi’n difaru, yw methu arbed ein swyddi, ein cymunedau, a’r diwydiannau ategol. Hynna, a phledio’n euog i darfu ar yr heddwch pan wnaeth yr heddlu ddweud celwydd. Roeddwn i’n ddieuog.