Blog Cadwraeth: Glanhau yng Nghastell Sain Ffagan
14 Gorffennaf 2025
,Dyma her i chi! Mae gennych chi dridiau i lanhau pum ystafell enfawr, sydd ar agor i'r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos. Sut mae mynd ati i lanhau'r paneli, paentiadau a photiau i gyd? A beth am gaboli'r dodrefn ac adfywio'r llenni a'r carpedi yn y plasty hwn a adeiladwyd tua 1580, gyda chasgliadau sy'n adlewyrchu ysblander ei gyfnod? Wel, yr ateb yw – gyda chriw o gadwraethwyr, glanhawyr a gwirfoddolwyr medrus ac arbenigol, sgaffaldiau, ysgolion (gan gadw rheoliadau gweithio ar uchder mewn cof!) brwshys, sugnwyr llwch, clytiau, toddyddion, swabiau gwlân cotwm, nerth bôn braich, dyfalbarhad, brwdfrydedd, paned a siocled!
Ar ddiwedd Mehefin 2025, aeth yr Adran Gadwraeth, dan oruchwyliaeth yr Uwch Gadwraethydd Dodrefn, ati i lanhau'r gofodau cyhoeddus yn drylwyr. Parhaodd y Castell i fod ar agor i ymwelwyr yn ystod y cyfnod hwn.
Er mwyn sicrhau bod popeth wedi’i lanhau’n drwyadl, roedd rhaid i ni gael gwared ar yr haenau o ddeunydd gronynnol ym mhob twll a chornel o'r dodrefn a'r ffitiadau. Byddai hyn yn llonni ystafelloedd y Castell a gwella profiad ein hymwelwyr. O safbwynt cadwraeth, mae'r dasg flynyddol hon yn hynod bwysig gan ei bod yn cael gwared ar y baw sy'n gallu bod yn ffynhonnell o fwyd i blâu llwglyd a llwydni. Mae presenoldeb y baw hwn yn cynyddu'r risg o ymosodiad biolegol ar ein casgliadau unigryw. Mae glanhau hefyd yn gwaredu deunydd gronynnol, sydd, yn yr amodau amgylcheddol cywir, yn gallu cyflymu dirywiad gwrthrychau yn ein gofal.
Dechreuon ni yn y neuadd fwyta, i'r dde o'r brif fynedfa. Gan weithio fel tîm, tynnon ni wrthrychau oddi ar y waliau, gan symud gwrthrychau llai i hen neuadd y gweision.
Cafodd y gwrthrychau mwy, megis y soffa Edwinsford, y byrddau a'r seldau eu symud yn ofalus i ganol yr ystafell er mwyn i ni allu eu glanhau’n drylwyr, yn ogystal â glanhau’r gofodau lle maent fel arfer yn sefyll.
Ar ôl tridiau o ddringo ysgolion, brwsio eitemau cain ac addurnedig, llawer o hwfro a defnyddio emylsiynau mewn toddiant ac olew caledu i amddiffyn celfi gyda haenau gwarchodol, roedd y dasg o lanhau'r Castell wedi'i chwblhau.
Gobeithio y byddwch chi'n mwynhau ffrwyth ein llafur. Dim ond un o dros 50 o adeiladau hanesyddol yw'r Castell – pob un angen rhaglen dreigl o ofal a chynnal a chadw er mwyn iddynt barhau i fod yn hygyrch i bawb. Efallai y byddwch chi'n gweld ein timau cadwraeth a glanhau wrth eu gwaith ar y safle y tro nesaf i chi ymweld â'r Amgueddfa. Os ydych chi, dewch i ddweud helo. Bydden ni wrth ein boddau i ateb unrhyw gwestiynau ar lanhau'r adeiladau a'r casgliadau hanesyddol.