Hafan y Blog

Lleisiau’r Amgueddfa: Penny Dacey – Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn

31 Hydref 2025

Mae person gyda gwallt hyd ysgwydd a chrys glas yn sefyll o flaen cefndir gwyrdd deiliog, yn edrych at y camera.

Helo Penny, dwed ychydig wrthym amdanat ti dy hun a dy rôl yn Amgueddfa Cymru.

Helo, mae gen i swydd hyfryd yn Gydlynydd Prosiect Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion. Danielle Cowell yw fy rheolwr llinell, a hi sefydlodd y prosiect yn 2005. Mae’r prosiect yn rhoi addysg awyr agored i ysgolion cynradd trwy gynnal ymchwiliad gwyddonol i’r hinsawdd. Fy rôl i yw bod yn brif gyswllt i’r ysgolion, a’u helpu nhw i ymgysylltu â’r ymchwiliad.

Mae’r ymchwiliad ar waith trwy gydol y flwyddyn academaidd. Bydd ysgolion yn derbyn pecynnau adnoddau ddiwedd Medi, yn mabwysiadu a phlannu eu bylbiau ym mis Hydref, ac yn cymryd darlleniadau tywydd bob diwrnod ysgol o fis Tachwedd tan ddiwedd Mawrth. O fis Ionawr, byddan nhw’n monitro eu blodau, gan gofnodi’r dyddiad blodeuo a thaldra eu planhigion ar y dyddiad hwnnw. Caiff y data i gyd ei rannu ar ein gwefan.

Ym Mai, byddwn ni’n anfon gwobrau i’r ysgolion am eu cyfraniadau. Bydd yr ysgol fuddugol drwy Gymru’n cael taith i’w hamgueddfa agosaf (Amgueddfa Cymru), yn cynnwys y gost o logi bws a gweithdai gyda hwylusydd. Mae ’na gystadleuaeth Tynnu Llun y Diwrnod Plannu a chystadleuaeth fideo Bylbcast, gyda gwobrau ychwanegol i ysgolion. Ym mis Gorffennaf byddwn ni’n rhannu adroddiad diwedd blwyddyn sy’n archwilio data’r flwyddyn a chanfyddiadau cyffredinol y prosiect.

Plentyn gyda sbectol a dwylo mwdlyd yn gwenu wrth ymyl pot o bridd, gyda phlant eraill i'w gweld yn y cefndir.

Mae gweithio ar y prosiect yn rhoi boddhad mawr, ac mae’r sylwadau sy’n cael eu rhannu gan ddisgyblion am y tywydd a’u planhigion yn aml yn cynhesu’r galon.

Eleni rydyn ni’n dathlu 20 mlynedd o Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion, dwed ragor wrthon ni am hynny!

Iawn. Mi ddechreuodd Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion yn 2005 gyda llond llaw o ysgolion yn ardal Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mi dyfodd yn raddol i gwmpasu Cymru gyfan, gan gynnig prosiect ymgysylltu digidol oedd yn caniatáu i ysgolion ledled Cymru gysylltu â ni. Diolch i gyllid allanol gan yr Edina Trust, ehangodd yr ymchwiliad ymhellach. Ers 2011, mae’r prosiect wedi cynnwys ysgolion yn Lloegr a’r Alban, ac ers 2017, ysgolion yng Ngogledd Iwerddon.

I ddathlu’r garreg filltir 20 mlynedd, rydyn ni’n bwriadu codi ymwybyddiaeth o’r ymchwiliad a’i effaith, yn ogystal â thynnu sylw at dreftadaeth Amgueddfa Cymru ym maes addysg hinsawdd a chynaliadwyedd. Er i’r sefydliad ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2018, mae ganddo hanes llawer hirach o weithio yn y maes yma, fel mae hirhoedledd a chyrhaeddiad y prosiect hwn yn tystio.

Dwylo pump o blant yn dal bylbiau blodau dros arwyneb glas gyda phridd o gwmpas.

Mae’r Edina Trust wedi darparu cyllid ychwanegol ar gyfer dathliadau eleni, gan gynnwys recriwtio Swyddog Dathliadau i gefnogi ein gweithgareddau ychwanegol. Bydd y dathliadau’n cynnwys cynnal gweithdai rhithwir newydd i’r ysgolion sy’n cymryd rhan, creu ac enwi amrywiad newydd o gennin Pedr, a sefydlu gweithdy natur yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru (yn ddi-dâl i’r 20 ysgol gyntaf i ymuno). Rydyn ni’n cydweithio hefyd gyda’n tîm mentrau i ddatblygu arddangosfeydd ar themâu’r prosiect yn siopau’r amgueddfeydd. Caiff yr amrywiad cennin Pedr newydd ei blannu fel rhan o arddangosfeydd yn Sain Ffagan ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a bydd gennym weithgareddau i’r teulu yn gysylltiedig â’r prosiect dros hanner tymor yr hydref ar y ddau safle.

Mae’n gyfnod prysur i’n tîm bach, ond yn llawn cyffro wrth ystyried yr hyn sydd o’n blaenau.

Allet ti ein cyflwyno ni i Athro’r Ardd a’r Bwlb Bychan, ein hoff aelodau answyddogol o dîm Amgueddfa Cymru?

Wrth gwrs! Athro’r Ardd yw masgot y prosiect, a’r Bwlb Bychan yw ei gynorthwyydd parod wrth ei ochr. Byddwn ni’n cysylltu â’r ysgolion drwy Athro’r Ardd, sy’n ysgrifennu’r cyfarwyddiadau a’r blog ar gyfer y prosiect. Pedwar Cydlynydd Prosiect sydd wedi bod dros y blynyddoedd, gyda phumed yn ymuno cyn hir, sy’n help i gadw cysondeb. Mae’n ffordd ddifyr hefyd o ennyn diddordeb disgyblion iau, gan fod llawer o sylwadau a chwestiynau gan ysgolion yn cael eu cyfeirio at yr Athro.

Beth allwn ni ei ddysgu am newid hinsawdd o’r data gawn ni gan yr ysgolion?

Mae llaw yn defnyddio pren mesur i fesur blodau crocws porffor sy’n tyfu mewn potiau du, gyda glaswellt yn y cefndir.

Mae’r data sy’n dod o’r ysgolion yn bwydo i mewn i’n hadroddiadau diwedd blwyddyn. Bob blwyddyn academaidd, byddwn ni’n cynhyrchu adroddiad sy’n cymharu data tywydd y Swyddfa Dywydd ers dechrau’r ymchwiliad gyda’r data blodau a gesglir gan ysgolion. Mae’r adroddiad yn arf defnyddiol ar gyfer dysgu mathemateg a rhifedd, gan ei fod yn cyflwyno gwahanol dablau a graffiau ac yn tynnu sylw at dueddiadau a phatrymau. Yn aml mae’n ystyried pam efallai fod planhigion wedi blodeuo’n gynharach neu’n hwyrach na’r disgwyl, a sut y gallai tywydd y flwyddyn honno fod wedi effeithio ar hynny.

Mae’r Edina Trust yn cynhyrchu adroddiad hefyd sy’n defnyddio data tywydd a gasglwyd gan ysgolion ac yn cymharu dyddiadau blodeuo planhigion gafodd eu plannu yn y ddaear â rhai gafodd eu plannu mewn potiau. Mae’r adroddiadau hyn yn hyrwyddo dysgu trwy gyflwyno cysyniadau ffurfio rhagdybiaeth, arbrofi teg, a dadansoddi data. Byddwn ni’n creu cwisiau digidol hefyd i sicrhau bod archwilio’r data yn ddifyr ac yn hwyl.

Ein nod yw annog disgyblion i gysylltu â natur, datblygu sgiliau dehongli data, dyfnhau eu dealltwriaeth o faterion hinsawdd, a meithrin yr hyder i siarad ar y pynciau hyn. Er bod llawer i’w archwilio yn y data o hyd, y prif fewnwelediad rydw i wedi’i gasglu o weithio ar yr ymchwiliad yw gweld pa mor werthfawr yw rhoi perchnogaeth i’r plant a chreu profiadau trochol sy’n eu cysylltu â natur; mae hyn yn meithrin cariad gwirioneddol at eu planhigion ac yn eu hannog nhw i edrych yn fwy craff ar fyd natur. Mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod hwn yn ddull sy’n gwella ymgysylltiad, datblygiad personol, lles meddyliol, a stiwardiaeth amgylcheddol hirdymor disgyblion yn sylweddol.

Sawl pot gyda chennin Pedr melyn a chrocws porffor yn blodeuo wedi’u trefnu ar wyneb carreg, wedi’u gweld o’r brig.

Pa mor bwysig yw gwaith gwyddonol fel hyn i Amgueddfa Cymru, ac i ddyfodol Cymru?

Mae ymchwil wyddonol a phrosiectau addysgol yn sylfaenol i’n cenhadaeth a’n gweledigaeth ni fel sefydliad cenedlaethol a’i fryd ar ysbrydoli pobl a newid bywydau. Elfen ganolog i flaenoriaethau’r amgueddfa yw gweithredu fel stiward dros dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol Cymru er budd cenedlaethau’r dyfodol. Mae Strategaeth 2030 yr amgueddfa yn amlygu ffocws cryf ar gynaliadwyedd a dealltwriaeth y cyhoedd o faterion amgylcheddol, gan anelu at ddatblygu dysgu gydol oes a hyrwyddo lles trwy gysylltiad â natur. Mae prosiectau fel hyn yn galluogi Amgueddfa Cymru i gyflawni ei dyletswydd i hyrwyddo addysg gyhoeddus, cyfrannu at wybodaeth am fioamrywiaeth a hinsawdd Cymru, a chefnogi cymunedau i gymryd rhan weithredol yn y broses o lunio dyfodol cynaliadwy.

Trwy gefnogi gwyddoniaeth dinasyddion ac annog disgyblion i berchnogi’r dasg o gasglu a dadansoddi data, mae Amgueddfa Cymru nid yn unig yn dysgu sgiliau gwyddonol ond yn ysbrydoli cysylltiad emosiynol dyfnach â natur, gan feithrin cysylltiad parhaol ac ymdeimlad o gyfrifoldeb tuag at yr amgylchedd a fydd yn profi’n bwysig i ddyfodol Cymru.

Sut allwn ni gymryd rhan yr hydref hwn?

Llun lliwgar o genhinen Bedr gan blentyn gyda labeli yn enwi'r stigma, yr utgorn, y coesyn, y ddeilen, y bylbiau a'r gwreiddiau.

Rydyn ni’n gwahodd pobl i blannu gyda ni. Bydd ysgolion yn plannu eu bylbiau ar 20 Hydref, a gall unrhyw un sydd â diddordeb blannu bylbiau bryd hynny a monitro’u twf ochr yn ochr â’n Gwyddonwyr Gwych.

Fel rhan o hyn, byddwn ni’n cynnal gweithgareddau Plannu i Deuluoedd yn Amgueddfa Sain Ffagan ar 27 a 28 Hydref, ac yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 30 a 31 Hydref. Bydd pecynnau bylbiau ar gael i’w prynu yn y siopau ar y ddau safle, ynghyd â gwybodaeth am y prosiect a sut i’w ddilyn ar-lein.

Bob blwyddyn, bydd ysgolion sydd heb lwyddo i gael lle yn dal i ddilyn y prosiect trwy’r Blog Blodau a thudalennau cyfryngau cymdeithasol. Rydyn ni hefyd yn cyfeirio at wefan WOW y Swyddfa Dywydd, lle gall gwyddonwyr lleyg uwchlwytho data tywydd y maen nhw wedi’i gasglu. Gall unrhyw un gyfrannu fel hyn ac wedyn gymharu eu canlyniadau â chanlyniadau ysgolion o bob cwr o Brydain a’r canfyddiadau yn yr adroddiadau diwedd blwyddyn.

Felly, i gymryd rhan... ewch ati i blannu! Ewch i wefan y prosiect i gael gweithgareddau difyr, adnoddau a diweddariadau gan ysgolion ledled y wlad.

A’n cwestiwn olaf, sydd bob amser yn ddifyr – beth yw dy hoff ddarn di yn y casgliad?

Dyna un anodd! Dwi’n credu bod rhaid imi ddewis y môr-grwban cefn lledr sydd i’w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Cafodd y sbesimen hardd hwn ei ddarganfod ar draeth fy nhref enedigol, Harlech, ac mae ei stori’n rhoi darlun pwerus o effaith dyn ar fyd natur a’r camau bach y gallwn ni i gyd eu cymryd i wneud gwahaniaeth.

Darganfuwyd y môr-grwban ym 1988, 23 blynedd cyn cyflwyno’r tâl bagiau plastig a 35 mlynedd cyn deddfwriaeth sy’n cyfyngu ar blastigau untro. Symudodd Amgueddfa Cymru y môr-grwban i arddangosfa ‘Dyn a’r Amgylchedd’ yn 2006, gan adrodd hanes y crwban enfawr 100 mlwydd oed hwn a fu farw ar ôl mynd ynghlwm mewn leins pysgota. Darganfuwyd bod ei stumog yn llawn bagiau plastig. Mae’n stori ddirdynnol ond grymus.

Agwedd arall o’r casgliadau sy’n annwyl i mi yw’r amgylchedd naturiol yn Sain Ffagan. Mae’r coed a’r gerddi’n hardd ac yn gartref i rywogaethau gwarchodedig fel yr ystlum pedol a’r fadfall ddŵr gribog, ynghyd â glas y dorlan, cnocell y coed, gwas y neidr ac ambell ddyfrgi. Bûm yn ffodus i gynorthwyo gyda theithiau cerdded i deuluoedd i weld ystlumod a gweithgareddau i ysgolion yn cynnwys rhwydo a hela pryfed. Dwi wrth fy modd yn tynnu sylw grwpiau at agweddau rhyfeddol a chyfareddol y safle, ac mae mor braf gweithio i sefydliad sy’n rhoi blaenoriaeth weithredol i gadwraeth.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.