Hafan y Blog

Ann Francis

Alastair Willis

Mae'r trysor hyn yn cael ei arddangos nawr yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe nes Mehefin 2027

Beth oedd llongddrylliad yr Ann Francis?

Ar noson stormus, ffyrnig ar 28 Rhagfyr 1583, chwalwyd cwch masnach ar arfordir de Cymru. Doedd dim goroeswyr, ond mae’r cofnodion am longddrylliad yr Ann Francis ymhlith y mwyaf manwl o’r cyfnod, ac mae ei thrysorau ymhlith y mwyaf rhyfeddol i’w canfod yng Nghymru.

Beth gafodd ei ddarganfod yn llongddrylliad yr Ann Francis?

Mae Amgueddfa Cymru newydd gaffael casgliad rhyfeddol o ddarnau arian ac arteffactau gafodd eu canfod gan Peter Hughes, datgelydd metel, rhwng 1996 a 2017. Maen nhw’n cynnwys tua 870 o ddarnau arian ac aur, ynghyd ag eiddo personol; offer llong; offer coginio, bwyta ac yfed, oll yn dyddio nôl i ddiwedd y 15 fed ganrif hyd at yr 16eg ganrif.

Mae’r rhain yn ychwanegol i’r eitemau eraill sydd gennym a ganfuwyd ar yr un traeth nôl yn y 1970au, megis cwmpawdau mordwyo, rhagor o ddarnau arian a chwiban bosn, sydd oll yn awgrymu gwaddol drylliad o’r 16 eg ganrif. Mae ymchwil gan haneswyr, archaeolegwyr a churaduron lleol yn y 1970au hyd at y 1990au wedi datgelu mai llong o’r enw Ann Francis gafodd ei dryllio.

I ba le yr oedd yr Ann Francis yn hwylio?

Honnodd Francis Shaxton, y perchennog, fod yr Ann Francis wedi hwylio i Hartlepool o King’s Lynn, ond mewn gwirionedd, roedd yr Ann Francis wedi hwylio at y Penrhyn Iberaidd ym mis Hydref gyda llwyth o wenith. Ar y pryd, roedd Sbaen yn dibynnu ar fewnforio grawn yn ogystal â nwyddau eraill. Talwyd am y llwythi hyn gyda bwliwn aur ac arian, a gafodd eu cludo mewn llong o safleoedd buddugoliaethau diweddar Sbaen yn Ne a Chanolbarth America. Roedd yr Ann Francis yn dychwelyd adref i Kings Lynn o Sbaen gyda thaliad am y grawn ynghyd â nwyddau eraill y gellid eu masnachu pan gafodd ei hyrddio tua’r lan gan storm a’i dryllio’n llwyr. Mae’n bosib fod camgymeriad wrth fordwyo neu wyntoedd cryfion i’r de wedi arwain y capten at Fôr Hafren yn hytrach na’r Sianel.

Map

Felly, pam fod Francis Shaxton wedi dweud celwydd am leoliad y llong?

Mae’n debyg fod Francis Shaxton a’i dad, Francis Shaxton yr hynaf, yn fasnachwyr yn King’s Lynn ac yn smyglwyr drwgenwog. Roedd smyglo’n rhemp ar y pryd ac roedd sawl cymuned arfordiol yn rhan o’r gweithgarwch. Cafodd Francis Shaxton yr hynaf ei ethol yn faer King’s Lynn ddwywaith! Yn amlwg, doedd dim ots gan bobl King’s Lynn fod Shaxton yn smyglwr hysbys. Cymerodd y Francis Shaxton iau reolaeth o’r busnes ym 1552, erbyn hynny roedd y teulu wedi meddiannu fflyd o 8 llong fasnach.

Oes cofnodion ynglŷn â’r llongddrylliad wedi goroesi o’r cyfnod?

Oes! Mae adroddiadau o Lys Siambr y Seren [https://libguides.bodleian.ox.ac.uk/law-histcom/starch] yn datgelu fod llong wedi ei dryllio ar lannau Morgannwg ar 28 Rhagfyr 1583 (yn ôl y Calendr Iŵl, felly 7 Ionawr yn ôl y Calendr Gregori a ddefnyddiwn heddiw). Yn y llys, hawliodd yr arglwydd lleol Syr Edward Mansell ei hawl gyfreithiol dros y llongddrylliad. Cyhuddwyd Stiward Afan, George Williams, ynghyd â 100 o bobl eraill, o arfogi eu hunain ac anrheithio’r drylliad. Roedd Williams yn gwadu hyn, gan ddweud fod y llongddrylliad ar dir a oedd yn eiddo i Iarll Penfro, a’i fod wedi cymryd rheolaeth dros y drylliad ar ran ei arglwydd. Aeth y ddwy ochr ati i gorlannu nwyddau a rhannau o’r llong a dal gafael arnynt tra bod yr achos yn parhau.

Henry Herbert

Pa nwyddau gafodd eu hachub o’r llongddrylliad ar y pryd?

Lluniodd Mansell restr i nodi’r holl eitemau y bu’n eu casglu: sawl canon a dryll, angorau, rhaff, hwyl, darnau o’r mast, bad y llong, tair cist â’u cloeon wedi torri, clofs, marmalêd, tecstilau, chwiban a 12 punt 6 swllt o arian Sbaen. Mae cofnodion Siambr y Seren yn dangos fod Williams wedi cymryd nifer o eitemau oddi ar ysbeiliwr, gan gannwys sbeisys, ynghyd â llwy a chwpan piwter. Cafodd chwech unigolyn eu harestio gydag ysbail o’r llongddrylliad yn eu meddiant.

Enillodd Williams a Pembroke yr achos, ond erbyn mis Mawrth 1584, roedd Francis Shaxton, perchennog y llong, wedi camu ymlaen i hawlio’r drylliad. Cytunwyd y byddai Mansell yn dychwelyd rhywfaint o’r nwyddau ysbeiliedig, yn benodol, dwy o’r angorau gorau, dau o’r ceblau gorau, chwe chanon a’u cerbydau, a hanner yr arian a feddiannwyd gan chwech ysbeiliwr.

Pwy oedd ar fwrdd yr Ann Francis pan aeth i drafferthion?

Mae’n bosib fod cofrestr y plwyf yn un o borthladdoedd cyfagos King’s Lynn yn gofnod o enwau’r hwylwyr ar fwrdd yr Ann Francis. Mae cofrestr plwyf Wells-next-the-Sea yn cofnodi marwolaeth 14 hwyliwr ar arfordir y gorllewin ym mis Rhagfyr 1583. Dyma’r un cyfnod â drylliad yr Ann Francis. Mae’n dweud:

“Perished upon the west coast coming from Spain: Richard Waller, Christopher Dodd, John Bunting, William Craven, George Page, Gregory Baxter, Christopher Baxter, Thomas Ayre, Henry Gouldsmith, Walter Marshall, Robert Archer, Oliver Cobb, William Barret and Richard Dye, whose deaths were brought to pass by the detestable working of an execrable witch of King’s Lynn whose name was Mother Gabley, by boiling or rather labouring of certain eggs in a pail full of cold water. Afterwards approved sufficiently at the arraignment of the said witch”

Ni wyddys beth a ddigwyddodd i Mother Gabley. Yn ôl y sôn, hi oedd y person cyntaf i gael ei chondemnio yn Norfolk o dan Ddeddf 1562 yn erbyn Consuriaeth, Hudoliaeth a Swyngyfaredd (Conjurations, Enchantments and Witchcrafts). Gan fod ei throsedd honedig yn crybwyll llofruddiaeth, mae’n bosib mai cael ei chrogi fu ei ffawd.

Pa arian cafodd ei darganfod ar draeth Margam?

Darnau arian

Darn Aur São Vicente o Bortiwgal, a enwyd ar ôl y portread o San Vincent o Saragossa, nawddsant yr hwylwyr a dinas Lisboa, ar ochr arall (cynffon) y darn arian hwn. Cafodd ei fathu ym 1555-1557 yn ystod teyrnasiad Ioan y trydydd.

Darn aur doble excelente Sbaenaidd sy’n portreadu Ferdinand ac Isabella, y Brenhinoedd Catholig fel y’i galwyd, fu’n gyfrifol am uno dwy dalaith fwyaf Sbaen, Aragon a Castille, yn ogystal â noddi taith Christopher Columbus i’r Byd Newydd. Buon nhw’n teyrnasu ar y cyd o 1474 tan i Isabella farw ym 1504. Parhaodd teyrnasiad Ferdinand tan 1516. Roedd eu darnau arian yn llwyddiannus iawn ac felly gwelwn fod nifer o’r darnau arian sydd wedi eu hysgythru ag enwau Ferdinand ac Isabella wedi eu bathu ar ôl marwolaeth Ferdinand ac Isabella.

Darnau arian

Darn arian wyth reales Sbaenaidd, un o’r darnau wyth enwog, gaiff ei adnabod hefyd fel doler Sbaenaidd. Cafodd mwyafrif y darnau arian eu bathu yn enw Ferdinand ac Isabella. Maen nhw’n amrywio o’r 8 reales lawr at yr hanner real, er mai 4 reales yw’r mwyafrif. Mae cefn pob un o’r darnau arian hyn yn dangos symbolau Aragon a Castille, iau i gynrychioli Aragon a bwndel o saethau i gynrychioli Castille.

Darn arian prin tri reales Sbaenaidd. Cafodd ei fathu yn ystod teyrnasiad Siarl a Joanna, yn y bathfa yn Ninas Mecsico fyddai wedi bod yn newydd sbon ar y pryd ym 1536-7. Dyma felly un o’r darnau arian cyntaf erioed i gael ei fathu unrhyw le yn yr Amerig. Ar y cefn mae ysgythriad o Golofnau Ercwlff yng Nghulfor Gibraltar. Mae dros 120 o ddarnau arian Mecsico wedi eu canfod ar y traeth.

Thaler o Etholydd Meurig Sacsoni. Dyma un o amrywiaeth o thaleri a gafodd eu bathu yn nhaleithiau a siroedd Almeinig yr Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd yng nghanol yr 16eg ganrif, sydd wedi cael eu canfod ar y traeth. Esblygodd eu enw yn “doler”, ddaeth i fod yn llaw fer ar gyfer pob darn arian o’r maint hwnnw gan gynnwys y darn wyth Sbaenaidd.

Arian a masnach ryngwladol

Darn chwe cheiniog arian yn portreadu Elisabeth y Cyntaf, sy’n dyddio o 1580. Mae’n bosib fod un o’r ysbeilwyr wedi gollwng hwn neu efallai ei fod yn bres poced oedd yn perthyn i un o’r criw. Mae’n bosib fod y darnau arian a chopr o enwadau bach eraill yn Sbaen, Portiwgal a’r Almaen a gafodd eu canfod ar y traeth wedi cael eu casglu mewn porthladdoedd ar y cyfandir fel newid mân.

Byddai’r darnau arian ac aur yn rhan o’r taliad ar gyfer gwenith. Yn ddiddorol ddigon, roedd mwyafrif y darnau arian wedi bod o gwmpas ers sawl canrif erbyn cyfnod mordaith olaf yr Ann Francis, ac eto mae nifer ohonynt mewn cyflwr gwych o hyd ar ôl cael eu storio am nifer o flynyddoedd. Efallai fod rhai ohonynt wedi cael eu cludo mewn symiau mawr fel taliadau blaenorol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Byddai hyn yn egluro pam fod thaleri Almaenaidd, darnau arian o Sbaen a Mecsico, ac aur Portiwgeaidd oll yn rhan o’r un llongddrylliad.

Beth arall sydd wedi ei ganfod?

Clo cyfunrhif pres. Cafodd ei ganfod ymysg y gawod o ddarnau arian. Mae’n debygol mai dyma’r clo ar gyfer un o’r cistiau sy’n cynnwys y darnau arian neu ddogfennaeth bwysig yn ymwneud â’r llong, efallai un o’r coffrau a gofnodir ar restr Mansell. Mae cod y clo dal heb ei datrys. Mae’n ymddangos fod un clo cyfunrhif cyfoes Elisabethaidd wedi defnyddio’r cod “open”, yn debyg i ddefnyddio 1234 fel eich cod pin neu’r gair “cyfrinair” fel cyfrinair eich cyfrifiadur, ond mae’r un yma’n ymddangos yn fwy cymhleth.

Dau bwys ar gyfer darnau arian, fyddai’n cael eu defnyddio er mwyn gwirio pwysau darnau aur o gyfnod teyrnasiad Harri’r pedwerydd, oedd yn dal i fod mewn cylchrediad rhyngwladol. Byddai’n bwysig i fasnachwyr feddu ar amrywiaeth o’r pwysi yma er mwyn gallu gwirio’r gwahanol fathau o arian rhyngwladol a fyddai’n cael eu defnyddio i’w talu.

Offer mordwyo

Plymenni, pwysau plwm fyddai’n cael eu gollwng dros ochr y llong ar raffau er mwyn pennu dyfnder y dŵr. Mae ganddynt waelodion ceugrwm fyddai’n cael eu llenwi gyda gwêr, er mwyn amcangyfrif sut siâp fyddai wedi bod ar wely’r môr, drwy’r tywod fyddai’n mynd yn sownd yn y gwêr neu’r argraffiad oddi ar y cerrig neu’r cwrel.

Cwmpasau mesur, fyddai’n cael eu defnyddio gyda siartiau er mwyn pennu lleolaid y llong yn seiliedig ar bwynt cychwyn gwybyddus, proses o amcangyfrif a elwir bellach yn ‘dead reckoning’.

Chwiban badfeistr neu bosn. Byddai’n cael ei ddefnyddio er mwyn gwneud gorchmynion ar fwrdd y llong – gellid clywed ei sŵn uwchlaw sŵn y môr.

Rhannau o’r llong

Mae’n bosib fod hoelion copr, rhybedi a darnau o blwm dalennog wedi dal y llong at ei gilydd, neu wedi helpu i atgyweirio’r llong.

Amddiffyn

Pelenni canon gyda thyllau siâp ciwb oddi mewn iddynt, yn awgrymu eu bod mwy na thebyg yn defnyddio peli siâp deis. Roedd pob pêl yn dal deis haearn, mae’n bosib mai’r bwriad fyddai i achosi mwy o niwed neu alluogi’r arf i droelli.

Cafodd pelen o blwm ei ganfod ar y traeth, a allai fod wedi cael ei ddefnyddio fel arfogaeth ar gyfer gynnau llai.

Mae rhestr Mansell yn dweud wrthym fod y llong wedi ei arfogi gydag ystod o wahanol ynnau, cam synhwyrol o ystyried perygl lladron a herwlongwyr ar y môr.

Bwydo’r criw

Pestl pres a phedair llwy piwter, gan gynnwys un wedi ei hysgythru â marciau adnabod.

Dolen a chaead tancer piwter.

Spigodau a thapiau, fyddai’n cael eu morthwylio i gasgenni cwrw neu win.

Sawl dernyn crochan.

Mae’n ymddangos fod darnau o blwm rholiedig wedi gweithredu fel pwysau rhwydi ar gyfer pysgota.

Eitemau personol ac amrywiol

Canhwyllbren pres, eitemau personol amrywiol ac ategolion ffrociau, gan gynnwys gwniadur, byclau, botwm a sbardun. Mae’n bosib mai eiddo’r criw oedd y rhain neu eitemau a aeth ar goll yn ystod ysbeiliad y llongddrylliad.

Beth ddylwn i wneud os ydw i’n dod o hyd i eitemau o longddrylliad?

Am eu bod yn rhan o ddrylliad hanesyddol, caiff y darganfyddiadau eu gwarchod o dan gyfraith y DU. O dan Ddeddf Llongau Masnach 1995 (Merchant Shipping Act), mae rheidrwydd cyfreithiol i ganfyddwyr drylliad i adrodd am ddeunydd drylliad wrth Dderbyniwr y Drylliad. Ceir gwahanol ddiffiniadau a chategorïau pan ddaw hi at ddrylliadau, ond mae’r canfyddiadau o long yr Ann Francis yn cyfri fel “deunydd drylliad wedi ei olchi i’r lan mewn dyfroedd llanwol”. Yn gyfreithiol, eiddo’r goron yw’r canfyddiadau ac mae’r sawl sy’n dod o hyd i’r deunydd yn gallu hawlio tâl am achub. Cyfrifoldeb Derbyniwr y Drylliad yw dod o hyd i amgueddfa priodol i gymryd yr hyn gaiff ei ganfod. I gael mwy o wybodaeth ewch i Wreck and salvage law - GOV.UK.

Dewch i weld yr eitemau mewn arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe hyd at Mehefin 2027.

Darllen Pellach

  • Blundell, J. 1994, ‘A Tudor wreck near Aberavon in Glamorgan’, Cardiff Naturalists’ Society Newsletter 22, 1-3.
  • Redknap, M. and Besly, E. 1997 ‘Wreck de mer and dispersed wreck sites: the case of the Ann Francis (1583)’ in M Redknap (ed.), Artefacts from Wrecks. Dated assemblages from the Late Middle Ages to the Industrial Revolution, Oxbow Monograph 84 (Oxbow Books, Oxford), 191-207.
  • Redknap, M. 2019, 'The Ann Francis', in Redknap, M., Rees, S. and Aberg, A (ed), Wales and the Sea: 10,000 Years of Welsh Maritime History, (RCAHMW/Y Lolfa, Talybont), 240.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.