Dathlu Moel y Gaer
12 Tachwedd 2010
,Diolch o galon i ddisgyblion Ysgol Rhos Helyg, Rhosesmor, Sir Fflint ac Ysgol y Berllan Deg, Caerdydd am ymuno gyda ni wrth ddathlu creu'r Moel y Gaer newydd ddoe. Roedd hi'n wych cael ysbrydoliaeth gan Dewi Pws Morris, Bardd Plant Cymru. Buom yn creu perfformiad a darn o farddoniaeth. Byddaf yn cerfio'r geiriau hyn ar ddarn o bren dros yr wythnosau nesaf i'w harddangos nhw ger Moel y Gaer. Dyma'r gerdd i chi
Ti yw cartref y Celtiaid
Yn llawn o atgofion henfyd
Pobol cryf a dyfeisgar ein gorffennol
A ni? Dani yma o hyd