Hafan y Blog

Ias oer y gaeaf

Gareth Bonello, 7 Rhagfyr 2010

Meddwl baswn yn postio'n gyflym gydag ambell i lun o'r tywydd oer yma yn Sain Ffagan. Mae hi'n oer ond yn brydferth ar yr un pryd - yn enwedig wrth i'r haul godi a machlyd (digwyddiadau sydd bum munud ar wahan bellach dwi'n siwr 'bo chi 'di sylwi).

Os ydych am dod i'r Nosweithiau Nadolig yr wythnos yma dewch a torch a ddillad cynnes. Mae yna lwyth o bethau i wneud ond fydd hi ddim yn dwym! Mi fyddwn ni yn dangos i chi siwd i wneud addurnau nadoligaidd trwy defnyddio 'mond papur newydd, sisiwrn, glud a'r pŵer tywyll y gelwir yn 'celf a chreft'.

Hefyd, bwydwch yr adar mân gan eu bod nhw'n oer. Edrychwch ar y Robin bach yn sythu. Druan.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.