Hafan y Blog

Dazu: Dylunio'r arddangosfa

John Rowlands, 26 Ionawr 2011

Rydw i wedi delio ag arddangosfeydd o bob lliw a llun yn ystod fy nghyfnod fel dylunydd yn Amgueddfa Cymru, ac roedd arddangosfa Cerfiadau Carreg Dazu yn sialens unigryw, yn enwedig y pennau!

Mae sawl pen carreg trwm yn rhan o’r arddangosfa, pennau sydd wedi eu gwahanu o’u cyrff drwy fandaliaeth hanesyddol neu draul amser (maen nhw dros 1000 o flynyddoedd oed wedi’r cyfan!).

Roedd hi’n broblem eu harddangos mewn modd diogel oedd hefyd yn hwylus i’r cyhoedd eu gweld. Roedd yn rhaid iddi fod yn system hyblyg a chyflym hefyd: dim ond deg diwrnod oedd gyda ni rhwng y cerfluniau’n cyrraedd a’u gosod yn eu lle!

Cawsom syniad yn y stiwdio ddylunio rai wythnosau’n ôl a gofynnom am gyngor arbenigol Annette a Mary o’r adran Gadwraeth i asesu rhinweddau ein syniad.

“Beth os bydden ni’n gosod y cerrig mewn mowld sbwng ehangol? Fyddai ganddo afael digonol yn y cerflun ac a fyddai’n dal yr arddangosiad yn ei le?”

Cytunai Mary ac Annette na fyddai defnyddio deunydd cadwrol o safon uchel a rhoi maneg o ffilm bolythen am y garreg yn effeithio ar y garreg (mewn termau syml). Byddai’n gweithio!

Yn goron ar y cyfan, tarwyd ar y syniad o ychwanegu gorchudd ffabrig fel gorffeniad fyddai’n barod i’w arddangos. Gwnaed model cyflym a gweld yn syth ei fod yn gweithio’n wych!

Diolch i waith caled Mary ac Annette cafod y pennau eu gosod mewn blychau wedi’i paratoi ymlaen llaw mewn labordy diogel yn ddwfn yng nghrombil yr Amgueddfa. Torrwyd y gorffeniad ffabrig a cafodd y blychau a’r cerfluniau eu trosglwyddo i’r oriel i gael eu harddangos dan oleuadau arbennig.

Mae’r pennau bellach i’w gweld ochr y ochr ag eitemau mwy ar blinthau arbennig a rhai cerfiadau cywrain iawn mewn casys. Dyfeisiwyd dulliau arddangos clyfar ar gyfer pob cerflun er mwyn gwneud hon yn arddangosfa aruthrol fyddai’n ysbrydoli.

Rydyn ni gyd yn llawn cyffro wrth weld yr arddangosfa hon yn dod i fwcl a gobeithiwn y bydd y cyhoedd yn ei mwynhau hefyd.

Simon Tozzo, Dylunydd 3-D, Amgueddfa Cymru


Gwelwch mwy o luniau Dazu ar Flickr, cewch y newyddion diweddaraf am Dazu ar Facebook a dilynwch @museum_cardiff ar Twitter  #dazucymru

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.