Sesiwn celf a chrefft Archwilio Natur
23 Mawrth 2011
,Ar 2 Ebrill byddwn yn lansio prosiect Archwilio Natur. Bydd digonedd o weithgareddau ar gael, felly cofiwch ymweld â’r blog a twitter am fwy o wybodaeth.
Fel rhan o’r lansiad byddaf i’n cynnal sesiwn celf a chrefft yn ymwneud ag adar. Os ydych â diddordeb mewn gwinïo, bydd cyfle i wneud bathodynnau neu bypedau bys, ac i’r plantos bach thaumatropes sy’n troi.
Rhag ofn nad ydych yn gwybod beth yw thaumatropes (doedd dim syniad gen i!), cylchoedd papur ydynt sydd, fel arfer, â llun aderyn ar un ochr a chaets yr ochr arall. Pan ydych yn eu troi mae’n ymddangos fel bod yr aderyn yn y caets. Gan ein bod yn dathlu natur, yn hytrach na chyfyngu yr adar i gaets, fe fyddwn ni’n eu dangos yn hedfan.
sylw - (2)