Un wythnos arol...
25 Mawrth 2011
,Dim ond un wythnos sydd ar ôl bellach i ysgolion anfon eu data tywydd atom ni. Mae llawer wedi gwneud yn barod ac maen nhw ar eu ffordd i gael tystysgrifau gwyddonwyr gwych.
Hyd yn hyn yr wythnos hon, rydw i wedi derbyn 305 o gofnodion! Bydd yr ysgolion sydd wedi cadw cofnod orau yn cael y cyfle i ennill taith weithgareddau natur. Byddwn yn dewis ac yn cyhoeddi’r enillydd ddydd Iau nesaf!
Erbyn hyn hefyd mae adroddiadau o flodau wedi’n cyrraedd o bob cwr o Gymru. Dwi mor falch bod cymaint o flodau wedi goroesi’r gaeaf caled. Fe gollodd rhai ysgolion eu cennin Pedr i’r rhew – dyna biti mawr – ond bydd tystysgrif ar eu cyfer nhw hefyd am fod yn wyddonwyr mor dda.
Bwlb dirgel eleni yw’r tiwlip. Dwi’n hoffi’r blodyn yma am ei fod mor lliwgar.
Ar ddydd Sadwrn 2 Ebrill, byddwn ni’n cynnal diwrnod o weithgareddau natur yn Sain Ffagan. Cliciwch ar y ddolen i weld ffilmiau byr am ystlumod ac anifeiliaid arbennig eraill sy’n byw yn Sain Ffagan.