Cert Celf - Arian
2 Mehefin 2011
,Neges gyflym i ddangos rhai lluniau o beth fuon ni'n creu yn y Cert Celf dros hanner tymor. Mae'r gweithgareddau yn rhedeg tan ddydd Sul, felly mae digon o amser i chi ymweld a chymryd rhan o hyd. Mae rhai gwisgoedd ffansi Tuduraidd gyda fi hefyd y gall y plant eu gwisgo, a chefndir wedi'i beintio er mwyn tynnu llun o'i flaen.
Ceiniogau yw'r thema am fod arddangosfa anhygoel o geiniogau yn yr oriel ar hyn o bryd fel rhan o arddangosfa Creu Hanes. 'Celc Tregwynt' yw'r enw ar y ceiniogau ac fe gawson nhw eu claddu tua 1647 a'u darganfod o'r diwedd ym 1996!
Rydyn ni wedi bod yn lliwio ac addurno ceiniogau Tuduraidd yn y cert celf ac wedi bod yn defnyddio cortyn a ffoil i wneud arian 3D.
Dwi'n credu eu bod nhw'n edrych yn rhagorol.