Hyrwyddwr Hinsawdd yn ymweld � Sain Ffagan!
15 Medi 2011
,Mae Bronwen Davies o Lyn Ebwy yn un o Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru.
Treuliodd Bronwen, sy’n 15 oed, y diwrnod yn y Tŷ Gwyrdd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn siarad ag aelodau’r cyhoedd am sut i addunedu i leihau eu hôl troed carbon.
Siaradodd â phobol o bob oed a mwynhau trafod gyda theuluoedd lle gallai rhieni a phlant gynllunio eu camau nesaf gyda’u gilydd. Mae hi wedi bod yn brysur iawn dros yr wythnosau diwethaf yn helpu pobl i ddeall y newid yn ein hinsawdd.
Penodwyd Bronwen yn Hyrwyddwr Newid Hinsawdd ym mis Ionawr wedi iddi ennill cystadleuaeth i ganfod chwe person ifanc allai ddefnyddio eu dylanwad i berswadio eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymunedau i gyfrannu at helpu Cymru i leihau ei hôl troed carbon.
Ar 1 Hydref gallwch chi gyfarfod Hyrwyddwr Newid Hinsawdd Caerdydd, Tom Bevan, sy’n 16. Galwch draw i Tŷ Gwyrdd i gyfarfod Tom, addunedu, a dysgu beth allwch chi ei wneud i leihau eich ôl troed carbon.
Dilynwch hanes Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd Cymru yn: http://tinyurl.com/3gu535d