Diwrnod Byw yn Wyrdd!
8 Tachwedd 2011
Helo! Dydd Sadwrn, Tachwedd 5ed cynhaliwyd digwyddiad ‘Byw yn Wyrdd’ yn y T? Gwyrdd.
Bwriad ‘Byw yn Wyrdd’ yw cynnig syniadau hawdd a syml ar sut i arbed ynni ac ar yr un pryd arbed arian! O gerdded i’r ysgol, gosod plwg mewn sinc pan yn ymolchi, diffodd y golau pan yn gadael yr ystafell a llawer mwy. Mae hyn mor hawdd a syml!
Am ragor o syniadau syrffiwch draw i'r linc canlynol:: http://tiny.cc/w4iqr
Roedd gofyn i ymwelwyr 'Byw yn Wyrdd' ddewis un weithgaredd newydd sbon a chadw ati ar ôl dychwelyd adref.
Er mwyn gwneud yn siwr bod pawb yn cadw at eu haddewidion newydd roedd gofyn i bawb eu hysgrifennu ar ddeilen ac yna glynu’r ddeilen ar goeden ‘Byw yn Wyrdd!’
Cyn pen dim roedd y goeden yn llawn addewidion gwyrdd ac yn amrywio o gerdded i’r ysgol, i wisgo siwmper i gadw’n gynnes. Gwych!
Mae’n werth crybwyll bod ambell un wedi bachu ar y cyfle i droi’n wyrdd (yn llythrennol) wrth daflyd boa plu gwyrdd a sbectol sgleiniog T? Gwyrdd amdanynt! Am gyfnod roedd hi’n debycach i sesiwn swreal Strictly Come Dancing! Dwi’n amau mai dyna’r tro cyntaf i lechi caled llawr T? Gwyrdd weld camau y tango! Go dda!
Diolch yn fawr i bawb ddaeth draw….digwyddiad nesaf T? Gwyrdd yw ‘Nadolig Cynaliadwy’ ar Rhagfyr 3ydd. Cyngor ar sut i wneud eich Nadolig chi yn un gwyrdd a throi eich llaw at wneud eich haddurniadau eichhunan. Os oes ganddoch chi syniadau ar sut i ddathlu’r Nadolig mewn modd cynaliadwy – gallwch drydaru eich syniadau i’r cyfeiriad canlynol:
Diolch yn fawr,
T? Gwyrdd