Gweithdy Crefftau Helyg yn y Ty Gwyrdd 9 Tachwedd 2011 Heddiw mae Ty Gwyrdd wedi bod yn gartref i weithdy creadigol iawn!Gweithdy yn benodol i athrawon oedd hon, yn cynnig y cyfle iddynt i ddysgu sut i fynd ati i greu crefftau Nadolig o helyg.Heddiw mae'r grwp wedi bod yn brysur iawn yn creu! Yn amlwg , roedd pawb yn falch iawn yn gadael gyda'u torchau, ser, coed bach i gyd wedi'u gwneud o helyg! Dwi'n siwr bydd sawl ysgol yn mynd ati i ail-greu y crefftau hyn dros cyfnod yn arwain at y Nadolig.Trefnwyd y gweithdy gan Out to Learn Willow.O bryd i'w gilydd, mae modd llogi Ty Gwyrdd fel gofod i gynnal gweithdai tebyg i hyn. Mae gofyn profi bod eich gweithdy yn hyrwyddo cynaliadwyedd ac yn un di-elw.Os am rhagor o fanylion cysylltwch drwy Adran Addysg yma yn Sain Ffagan.Diolch. Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.