Cynllun Teithio i Sian fagan
23 Mai 2012
,Mae hi’n Wythnos Cynaliadwyedd Cymru’r wythnos hon – amser perffaith i lansio Cynllun Teithio Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru!
Ni yw’r amgueddfa genedlaethol gyntaf yng Nghymru i lansio Cynllun Teithio, a’r nod yw hybu teithio cynaliadwy ymysg ymwelwyr a staff. Bydd y Cynllun Teithio hwn yn sicrhau bod dulliau teithio – yn drafnidiaeth gyhoeddus, beicio neu gerdded – yn cael eu ehangu a’u hyrwyddo.
Mae’r cyswllt trafnidiaeth gyhoeddus i’r Amgueddfa wedi gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r gwasanaeth bws lleol o ganol y dref yn aros ar y safle, gyferbyn â’r brif fynedfa i ymwelwyr. Ewch i’r adran Ymweld ar y wefan www.amgueddfacymru.ac.uk/sainffagan/ymweld/ lle gallwch chi ddefnyddio teclyn trefnu taith Traveline Cymru i weld sut i gyrraedd yr Amgueddfa ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae ein gwasanaeth bws gwennol newydd yn rhedeg bob dydd rhwng prif fynedfa Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan. Mae’r pris yn £3 am docyn dychwelyd neu £1.50 am docyn sengl. Beth am fwynhau’r diwrnod cyfan yn y ddwy amgueddfa? Mae amserlen y bws gwennol ar ein gwefan.
Os ydych chi’n un am gadw’n heini beth am ddilyn Llwybr Elai, y prif lwybr beiciau o ganol dinas Caerdydd i’r Amgueddfa. Does dim traffig ar y cymal o’r Tyllgoed sy’n llwybr pleserus yn dilyn arwyddion ar hyd glan yr afon. Darperir man parcio beiciau diogel, dan gysgod i ymwelwyr ger y brif fynedfa. Darperir loceri ar gais.
sylw - (1)