Unwaith eto...
21 Awst 2007
,Erbyn hyn, rwy wedi cychwyn ar ychydig o waith maes. Fe gychwynais drwy recordio Sirajul Islam, sy'n wreiddiol o Bangladesh, ond sydd erbyn hyn yn astudio am radd yn y Gymraeg. Mae ganddo hanes diddorol a fydd yn ein harchif ar gyfer ei astudio gan genedlaethau'r dyfodol.
Prosiect arall yw cryfhau'r gornel Ieuenctid yn Oriel 1. Bydd y sgrin sy'n dangos lluniau llonydd o Maes Bs y gorffennol cyn bo hir yn dangos fideo bywiog o ddigwyddiadau 2007. Bydd arwydd cliriach a mwy o wrthrychau e.e. records yng nghesyn gitar Meic Stevens hefyd.
Gyda'r Rhith Amgueddfa'n lansio diwedd mis Awst, mae prosictau ar y gweill ar gyfer hwnnw, sef cofnodi cynnwys y Ddresel Gymunedol bresennol, a chynnwys cyfweliadau gyda pobl ifanc o Faes B wythnos yr Eisteddfod.
Rwy hefyd yn gysylltiedig â phrosiect cyffrous sydd am ail-adeiladu un o dai'r Pentref Celtaidd gyda waliau pridd, cynllun chwyldroadol all droi theoriau archaeolegol wyneb i waered!
Heblaw am hyn i gyd, byddaf yn ymweld ag Amgueddfa Casnewydd dydd Iau i drafod eu harddangosfa bop hwy, ac rwy wedi bod ar deledu a radio Cymraeg i hyrwyddo'r Oriel newydd a fy swydd newydd. Mae pethau'n dechrau poethi!
sylw - (3)
www.gwenudanfysiau.blogspot.com
Falch o weld blog yma, daliwch ati!