Ha bach Mihangel...
17 Hydref 2007
,Newydd sgwennu llith yn ateb ymholiad pbhj ar gyfer fersiwn Saesneg y blog yma. Dwi ddim am ei ailadrodd i gyd yma - roedd yn gwestiwn gan berson unieithog yn amlwg. Roedd yn gofyn beth oedd y tebygrwydd rhwng Cymraeg a British Sign Language (gweler y blog diwethaf). Os oes diddordeb, cliciwch ar English ar top y ddalen.
Daeth cwestiwn lot neisiach gan Sabrina Rochemont yn gofyn sut allai fy helpu. Wel, os oes gan rywun farn ar sut mae casglu'r 'Cyfoes', buaswn yn falch iawn cael clywed gennych. A ddylai amgueddfeydd gasglu pob teclyn electroneg dan haul, neu dim ond y rhai sydd a stori ddiddorol? Er enghraifft, rhoddodd rhywun ZX Spectrum, yn ei focs, bron fel newydd i mi y diwrnod o'r blaen. Mae hyn yn anarferol iawn, gan fod llawer o wrthrychau'n cael eu gwerthu ar e-bay y dyddiau yma. Ond oes cysylltiad â Chymru? Oes. Oes stori ddiddorol? Oes. Ydyn ni'n debygol o'i arddangos? Ydyn. Ac yn y blaen - mae'n rhaid cyfiawnhau casglu ar sawl lefel wahanol, yn bennaf oherwydd diffyg lle.
Agwedd arall o'r swydd yw delio â chymunedau - mae holl ethos amgueddfeydd yn nnewid - dim adeilad i arddangos trysorau a ddygwyd ydyn nhw bellach, ond canolfannau addysg a hwyl i'r gymdeithas ehangach. Ond wrth gydweithio, oes peryg bod yn nawddoglyd neu docenistic?
Reit, i orffen, dyma, yn fras, beth ydw i wedi bod yn ei wneud dros y mis diwethaf: wedi cael cyfarfodydd blaenorol i drefnu'r Arddangosfa Bop yn 2009; bues mewn cyfarfod yn y Trallwng i geisio ffurfio polisi Casglu Cyfoes ar gyfer holl amgueddfeydd Cymru; mynychais fy ail weithdy Straeon Digidol er mwyn dysgu mwy am sut i weithio gyda chymunedau; casglais y gwrthrychau ar gyfer yr ail Ddresel Gymunedol o Johnstown, ger Wrecsam (mae gwybodaeth am y ddresel gyntaf ar 'Rhagor' ar y wefan yma); ymwelais a dau amgueddfa'n Abertawe; a cychwynais fy nghwrs MA Astudiaethau Amgueddfeydd.
Whiw! Erbyn i fi sgrifennu mis nesaf, byddaf wedi bod yn Sweden ar gyfer cynhadledd SAMDOK, sef y grŵp casglu cyfoes mwya blaenllaw yn y byd. Wela i chi wap.