Creu Hanes Gyda'n Gilydd
8 Hydref 2013
,Beth Thomas, Ceidwad Hanes ac Archaeoleg
Mae dechrau ar y blog yma’n foment hanesyddol i fi. Dyma’r tro cyntaf i fi fentro i fyd blogio - fy rhan fach i yn newid diwylliant cyfathrebu Amgueddfa Cymru a bod yn rhan o’r chwyldro cyfryngau newydd sy’n ysgubo’r byd. Un bod bach yn rhan o rywbeth sylweddol fwy.
A dyna yw hanes, mewn gwirionedd – neu o leia’r math o hanes rydym ni am gyflwyno yn Sain Ffagan ar ei newydd wedd.
Mae’n siwr eich bod yn gwybod erbyn hyn ein bod wedi cael nawdd sylweddol gan y Loteri Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru i ailddatblygu Sain Ffagan. Ac mi wn i fod hynny wedi peri braw i bobl. Beth? Newid Sain Ffagan? Pam?
Mae ‘na nifer fawr o resymau ymarferol. Mae angen gwella’r orielau ar gyfer arddangos ein casgliadau; gwella’r fynedfa er mwyn paratoi ymwelwyr yn well ar gyfer y profiad sydd yn eu disgwyl; a gwella’r cyfleusterau ar gyfer y plant ysgol sy’n cyrraedd bob dydd yn eu miloedd ar rai adegau o’r flwyddyn. Ond mae rhesymau mwy sylfaenol na hynny.
Digon hawdd yw anghofio pa mor radical oedd yr Amgueddfa Werin adeg ei sefydlu. Hi oedd un o’r amgueddfeydd cyntaf ym Mhrydain i roi pwyslais ar fywyd beunyddiol pobl gyffredin yn hytrach na gorchestion y gwŷr mawr. Yng ngeiriau Iorwerth Peate ei hun, y bwriad oedd ‘nid creu amgueddfa a drysorai’r gorffennol marw dan wydr ond amgueddfa a ddefnyddiai’r gorffennol i’w asio â’i oes ei hun i roddi sylfaen cadarn ac amgylchedd iach i ddyfodol ei bobl.” I gadw perthnasedd, a dal i fod yn radical, mae newid yn anorfod.
Bydd yr adeiladau a’r cyfleusterau newydd yn ein galluogi i asio ein gwaith fel amgueddfa ag anghenion pobl ein hoes ein hun. Amgueddfa gyfranogol sydd gennym mewn golwg – ‘participatory museum’ yn yr iaith fain, sef amgueddfa sy’n newid a datblygu trwy gydweithio â chynulleidfaoedd.
Ym mhob agwedd o’r project, byddwn yn achub y cyfle i wneud yn siwr nad llais yr Amgueddfa yn unig fydd yn cael ei chlywed, a’n bod yn rhannu profiad a sgiliau gyda’r bobl sydd eu hangen. Ein bwriad yw creu amgueddfa sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Bydd yn lle i bawb rannu gwybodaeth, casgliadau a sgiliau a chreu hanes gyda’i gilydd.
Rhan o’r agwedd gyfranogol hon yw’r blog hwn. O hyn allan, bydd fy nghydweithwyr a minnau’n rhannu ein profiadau wrth baratoi cynnwys orielau, wrth godi fferm Oes yr Haearn gyda phobl ifainc o Drelài, ac ailgodi un o neuaddau tywysogion Gwynedd yma yn Sain Ffagan.
Ymunwch â ni ar y daith. Mi fydd yn dda clywed eich barn!