#fflachamgueddfa #popupmuseum Heledd Fychan, 2 Medi 2014 Helo eto!Dros y penwythnos, yng nghanol wal anferth NATO a heddlu arfog, cynhaliwyd ail weithdy’r fflach amgueddfa. Pwrpas y gweithdai hyn yw canfod cynnwys ar gyfer y fflach amgueddfa sy’n cael ei greu yn Nghynhadledd Cymdeithas yr Amgueddfeydd ym mis Hydref fel rhan o Wyl Amgueddfeydd Cymru. Mae’r fflach amgueddfa yn cael ei chreu gan staff o Amgueddfa Stori Caerdydd, Amgueddfa Cymru a Cronfa Dreftadaeth y Loteri gyda cynnwys yn dod gan unrhyw un sydd a stori i’w dweud am Gaerdydd.Y tro yma, yn hytrach na gweithdy dwy awr, fe wnaethom drio annog pobl i bicio mewn... Yn anffodus, roedd yn ddiwrnod eithaf tawel. Er hyn, fe gawsom ambell i stori gwerth chweil. Clywsom gan ddiddanwyr stryd oedd heb fod yng Nghaerdydd yn gweithio ar ddydd Sadwrn am ugain mlynedd ond oedd yn ol ar gyfer priodas, a gan ddyn arall oedd yn cofio dod i Gaerdydd ar gyfer gwaith ac a ddechreuodd fynychu’r Vulcan yn rheolaidd.Y broblem fwyaf gyda sesiwn fel hyn oedd bod pobl ddim gyda gwrthrychau ac os oedden nhw gyda hwy, nid oeddynt yn fodlon eu gadael. Golygali hyn ar derfyn y ddwy awr nad oedd gennym fflach amgueddfa, dim on casgliad o straeon. Gwers wedi’i dysgu!Mae’r sesiwn nesaf yn mynd i fod ar nos Iau, 11eg o Fedi rhwng 6 ac 8yh yn Amgueddfa Stori Caerdydd felly dewch draw a gallwch wneud bach o siopa hwyr neu fynd am swper wedyn. Bydd hwn yn weithdy dwy awr felly fe fydd gennym amgueddfa wytch erbyn y diwedd.Mawr obeithiwn y gallwch fynychu.Cysylltwch gyda Arran Rees ar Cardiffstory@cardiff.gov.uk neu 02920 788334 am fwy o wybodaeth.