Hafan y Blog

#fflachamgueddfa #popupmuseum

Heledd Fychan, 2 Medi 2014

Helo eto!

Dros y penwythnos, yng nghanol wal anferth NATO a heddlu arfog, cynhaliwyd ail weithdy’r fflach amgueddfa. Pwrpas y gweithdai hyn yw canfod cynnwys ar gyfer y fflach amgueddfa sy’n cael ei greu yn Nghynhadledd Cymdeithas yr Amgueddfeydd ym mis Hydref fel rhan o Wyl Amgueddfeydd Cymru. Mae’r fflach amgueddfa yn cael ei chreu gan staff o Amgueddfa Stori Caerdydd, Amgueddfa Cymru a Cronfa Dreftadaeth y Loteri gyda cynnwys yn dod gan unrhyw un sydd a stori i’w dweud am Gaerdydd.

Y tro yma, yn hytrach na gweithdy dwy awr, fe wnaethom drio annog pobl i bicio mewn... Yn anffodus, roedd yn ddiwrnod eithaf tawel. Er hyn, fe gawsom ambell i stori gwerth chweil. Clywsom gan ddiddanwyr stryd oedd heb fod yng Nghaerdydd yn gweithio ar ddydd Sadwrn am ugain mlynedd ond oedd yn ol ar gyfer priodas, a gan ddyn arall oedd yn cofio dod i Gaerdydd ar gyfer gwaith ac a ddechreuodd fynychu’r Vulcan yn rheolaidd.

Y broblem fwyaf gyda sesiwn fel hyn oedd bod pobl ddim gyda gwrthrychau ac os oedden nhw gyda hwy, nid oeddynt yn fodlon eu gadael. Golygali hyn ar derfyn y ddwy awr nad oedd gennym fflach amgueddfa, dim on casgliad o straeon. Gwers wedi’i dysgu!

Mae’r sesiwn nesaf yn mynd i fod ar nos Iau, 11eg o Fedi rhwng 6 ac 8yh yn Amgueddfa Stori Caerdydd felly dewch draw a gallwch wneud bach o siopa hwyr neu fynd am swper wedyn. Bydd hwn yn weithdy dwy awr felly fe fydd gennym amgueddfa wytch erbyn y diwedd.

Mawr obeithiwn y gallwch fynychu.

Cysylltwch gyda Arran Rees ar Cardiffstory@cardiff.gov.uk neu 02920 788334 am fwy o wybodaeth. 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.