Hafan y Blog

Yw’r gaeaf ar y gorwel?

Liam Doyle, 24 Tachwedd 2014

Helo gyfeillion y gwanwyn!

Gobeithio eich bod chi i gyd yn mwynhau cofnodi’r data tywydd. Rydych chi’n gwneud gwaith gwych.

Mae hi’n oer iawn y bore ‘ma (dydd Llun 24 Tachwedd). Fe gwympodd y tymheredd yng Nghaerdydd neithiwr i 0°C a dyma ni’n gweld rhew cyntaf y flwyddyn. Roedd hi mor oer â -3°C mewn rhai rhannau o Gymru a Lloegr. Brrr!

Ond roedd hi’n llawer gwaeth mewn rhannau o America yr wythnos hon. Dyma’r tymheredd yn cwympo i -15 °C mewn rhai rhannau o’r gogledd ddwyrain a cwympodd dwy fetr o eira mewn rhai mannau! Dyna beth yw tywydd gaeafol.

Y newyddion da yw bod y rhagolygon ddim yn dangos bod yr eira a’r oerfel am groesi Cefnfor yr Iwerydd i’r DU. Fyddwn ni ddim yn adeiladu dynion eira am sbel eto.

Beth mae’r tywydd oer yn ei olygu i’r bylbiau? Mae nifer o blanhigion yn hoffi gwres ac yn marw os yw hi’n mynd yn rhy oer. Oherwydd ei fod yn gallu lladd eu planhigion, mae nifer o arddwyr yn poeni am rew.

Ond oherwydd ein bod ni wedi plannu’r bylbiau yn y ddaear, byddan nhw’n iawn. Mae’r pridd yn flanced drwchus sy’n cadw’r bylbiau yn glyd a chynnes. Beth am i chi greu llyfryn origami am fywyd bylb, drwy ddilyn y cyfarwyddiadau?

Dylech chi fod yn cofnodi’r tymheredd a’r glawiad bob dydd erbyn hyn. Cofiwch hefyd gofnodi’r canlyniadau ar ein gwefan ar ddiwedd pob wythnos. Mae digonedd o help yno hefyd os ydych chi’n cael trafferth.

Daliwch ati!

Athro’r Ardd

Eich cwestiynau, fy atebion:

Ysgol Y Plas – Rydyn ni’n arllwys y dŵr bob dydd ond ar ddydd gwener rydyn ni’n arllwys y dŵr a’i adael dros y penwythnos ac yn cofnodi’r glawiad ar ddydd Llun. Felly ar ddydd Llun mae’r mesur yn cynnwys glaw y penwythnos a dydd Llun. Oddi wrth c. Athro’r Ardd – Perffaith, daliwch ati!

Ysgol Gynradd Goffa Keir Hardie – Dyma ni’n anghofio gwagio’r mesurydd glawiad ar ddydd Mercher felly rydyn ni’n credu taw dyma pam mae’r glawiad mor uchel. Athro’r Ardd – Peidiwch â phoeni, mae’r gwyddonwyr gorau yn gwneud camgymeriadau weithiau. Gallwch chi fod yn glyfar iawn a defnyddio mathemateg i gyfrifo glawiad dydd Iau. Tynnwch gyfanswm dydd Mercher o gyfanswm dydd Iau i weld faint o law a gwympodd ar ddydd Iau.

Ysgol Gynradd Saint Anthony – Rydyn ni’n mwynhau’r project hyd yn hyn. Roedd plannu’r bylbiau yn sbort ac allwn ni ddim aros i’w gweld nhw’n tyfu. Dyma ni’n addurno’n tagiau enw a’u rhoi ar y potiau a ddefnyddio ni i blannu’r bylbiau. R ac L. Rydw i wedi sylwi, hyd yn oed pan fydd llawer o law, bod dim llawer o ddŵr yn y mesurydd glawiad. Athro’r Ardd – Da iawn bawb yn Saint Anthony. Mae’r tagiau yn swnio fel syniad gwych! Beth am ofyn i’ch athro anfon ffotograff ata i? Os nad yw’r mesurydd glaw yn llenwi, gwnewch yn siŵr bod dim byd agos yn atal y glaw rhag cyrraedd y mesurydd.

Ysgol Fethodistaidd Burscough Bridge – Ymddiheuriadau eto bod y data yn hwyr oherwydd niwed i’r offer, ond mae popeth yn gweithio eto nawr. Athro’r Ardd – Helo i bawb yn Burscough Bridge! Peidiwch poeni am fod yn hwyr, gwnewch eich gorau. Mae’n flin gen i bod eich offer wedi torri. Rhowch wybod os oes unrhyw beth alla i ei wneud i helpu.

Ysgol Gynradd Tongwynlais – Rydyn ni wir yn mwynhau mesur y tywydd! Dydyn ni ddim wedi gorfod rhoi dŵr i’r planhigion eto am ei bod hi wedi bwrw cymaint! Athro’r Ardd – Helo Tongwynlais, rwy’n falch eich bod chi’n mwynhau’r project. Un fantais o fyw yng Nghymru yw nad oes angen rhoi dŵr i’ch planhigion yn aml iawn!

Ysgol Gynradd Talybont – Dyma ni’n edrych ar eich map chi i weld ein arsylwadau blaenorol ond mae’n dweud nad oes unrhyw ddata wedi cael ei dderbyn.  Allwch chi gael golwg os gwelwch yn dda a gadael i ni wybod os ydyn ni’n gwneud rhywbeth yn anghywir wrth fewnbynnu’r wybodaeth? Athro’r Ardd – Haia Talybont. Dwi’n credu mod i wedi datrys y broblem, doeddech chi ddim yn gwneud dim yn anghywir! Edrychwch ar y map eto a gadael i fi wybod os oes unrhyw broblemau eraill.

Ysgol Nant Y Coed – Dyma ni’n cael llawer o hwyl, doedd dim llawer o lawiad. Diolch am ddewis ein hysgol ni. Athro’r Ardd – Dwi’n siŵr bydd digon o law i’w gofnodi dros y misoedd nesaf! Diolch am gymryd rhan Nant Y Coed.

Liam Doyle

Swyddog Addysg
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.