5 Hoff Gynnyrch Cymraeg
27 Tachwedd 2014
,Cario Caerdydd
Bag gyda phrint llaw chwareus yn dangos rhai o hoff adeiladau’r brifddinas. Mae’r bagiau cotwm trwm, hawdd i’w glanhau yn dod mewn dau faint; bas siopa mawr a bag llai, perffaith i ddal eich cinio. Daw bathodyn am ddim gyda phob bag, i chi ddangos eich cariad at Gaerdydd i bawb.
Rhodd rhamantus
Ysbrydolwyd y fodrwy arian brydferth hon gan fodrwy bwysi o’r 15fed ganrif a ganfuwyd ger Priordy Ewenni. Mewn arysgrif ar yr ochr allanol mae’r geiriau ieme la belle gyda chyfieithiad cudd i’ch cariad y tu mewn – love is beautiful.
Cariad at waith celf?
Gyda’i rhyfeddodau breuddwydiol a’r hiraeth yn yr iaith, mae ‘drama leisiau’ Dan y Wennallt Dylan Thomas wedi tanio dychymyg Syr Peter Blake erioed. Mae’r llyfr cain hwn yn croniclo obsesiwn un o hoelion wyth Celf Bop Prydain mewn gwaith pensil, dyfrlliw a collage.
Casgliad Llwyau Caru Sain Ffagan
Cerfiwyd y casgliad gwych hwn o lwyau caru Cymreig â llaw gan Sion Llewellyn. Mae pob un wedi'i seilio ar lwy garu o gasgliad Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
Gweu at y gaeaf
Cynhyrchwyd yr edafedd gwlân pur 100% hwn ar beiriannau hanesyddol Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-fach Felindre. Gyda’r gaeaf yn cau amdanon ni, beth am weu ychydig o belenni yn sgarff gynnes, neu arbed arian drwy brynu côn 500g ar gyfer project mwy.