5 i Gadw’n Gynnes
11 Rhagfyr 2014
,Wrth i’r nosau gau amdanon ni a’r oerfel ein cydio, dyma bum syniad i gadw’n gynnes dros y gaeaf gan Amgueddfa Cymru.
1. Comisiynwyd y blancedi tapestri hyfryd yma gan Felin Teifi yn Sir Gaerfyrddin, un o’r llond llaw o felinau gwlân gweithredol yng Nghymru heddiw. Dyma ddefnyddio patrwm Caernarfon traddodiadol gyda thinc modern yn yr arlliwiau ffres a’r fflach o liw llachar.
2. Beth am bâr o sanau cashmir cyfoethog ar gyfer eich bodiau bodlon? Sefydlwyd Corgi Hoisery yng Nghaerfyrddin ym 1892 i gynhyrchu sanau gwlân ar gyfer glowyr yr ardal. Heddiw, mae pob pâr wedi ei greu yn unigol ar beiriant gwnïo llaw.
3. Ychwanegwch laeth poeth at y powdwr siocled i greu diod i lonni’r galon. Ychwanegwch ddiferyn o Penderyn os ydych chi’n fentrus. Yn dod mewn mwg priddwaith cadarn.
4. Mae’r blancedi gwlân ffasiynol yma gan Tweedmill Textiles yn Nimbych yn wedi’u dylunio’n wych ac yn werth yr arian. Bydd cyfuno dau batrwm yn creu effaith trawiadol yn y cartref.
5. Capiau stabl twîd wedi’u gweu yng Nghymru o wlân 100% mewn patrwm traddodiadol. Perffaith i gynhesu’r pen yn y wlad neu yn y dref dros y gaeaf.