Amser Dechre Prynu... Sara Maidment, 8 Ionawr 2015 Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at fynychu’r sioeau prynu anrhegion yn Birmingham a Llundain yn yr wythnosau nesaf. Mae’n teimlo’n rhyfedd paratoi i osod archeb addurniadau Nadolig 2015 tra byddwn ni yno!Yn Sioeau’r Gwanwyn bydd ein cyflenwyr yn lansio eu cynnyrch newydd ac mae’n gyfle gwych i gael golwg gynnar ar ffasiwn y tymor. Byddwn ni’n chwilio bob tro am gwmnïau Cymreig, gan alw yn eu stondinau a chanfod cwmnïau y gallwn ni weithio gyda nhw i ddatblygu cynnyrch arbennig ar gyfer Amgueddfa Cymru. Dyma ni’n darganfod cwmni newydd gwych y llynedd. Dyma ragflas o gyfres newydd fydd ar gael yn ein siopau yn y gwanwyn. Rydyn ni’n dwlu ar y denim ac yn meddwl taw pinc llachar yw’r partner perffaith.Cofiwch edrych yn y siopau a’r siop ar-lein am gynnyrch newydd. Sara Maidment Cynorthwy-ydd Siop Ar-lein Cysylltwch â Sara Maidment sylw - (1) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. Vivian 9 Ionawr 2015, 09:58 Fantastic bags - quality and pretty!