ŵyna yn fferm Llwyn-yr-eos
3 Mawrth 2015
,Wyna yw un o amseroedd pwysicaf a phrysuraf y flwyddyn ar y fferm. Mae’n golygu oriau hir, ddydd a nos, yn gwylio dros, ac yn gofalu am y defaid, i wneud yn siwr bod eu ŵyn yn cyrraedd yn ddiogel ac yn goroesi yn y diwrnodau cyntaf. Mae ŵyn yn ffynhonnell bwysig o arian oherwydd gellir eu gwerthu ar gyfer eu cig, ac ar gyfer stoc newydd i’r ddiadell.
Mae cadw defaid yn rhan sylweddol o amaethyddiaeth yng Nghymru oherwydd eu bod yn gallu ymdopi yn dda â’r ucheldir, yr hinsawdd gwlyb ac â thir gwael. Gall defaid oroesi a ffynnu ar laswellt tiroedd uchel ac isel Cymru. Gellir cynhyrchu gwlân, cig, llaeth, crwyn a gwêr ar gyfer canhwyllau o ddefaid, a gellir defnyddio eu tail i wrteithio’r tir.
Mae’n debygol mai defaid bach, brown Soay oedd y defaid cyntaf yng Nghymru. Daethant yma gyda ffermwyr Neolithic tua 6 mil o flynyddoedd yn ôl. Daeth y Rhufeiniad â defaid o safon uwch, gyda gwynebau gwyn a gwlân main. Cadwyd y defaid ar gyfer eu gwlân yn unig. Roedd gan ffermwyr Rhufeinig enw da am gynhyrchu gwlân o safon. Trwy groesi y defaid gwyneb gwyn gyda’r defaid Soay cynhyrchwyd defaid â gwyneb brown golau, hynafiaid y defaid Cymreig gwydn sydd wedi byw ar ucheldiroedd Cymru ers dros ddwy fil o flynyddoedd.
Erbyn y Canol Oesoedd mae’n debyg bod defaid yn cael eu cadw ar gyfer eu gwlân a’u llaeth yn hytrach na’u cig. Bu gwlân yn goruchafu tan y Chwyldro Diwydiannol ond o ganlyniad i’r tŵf yn y boblogaeth yn y ddeunawfed ganrif cynyddodd y galw am gig.
Cig oedd prif gynnyrch defaid ac ŵyn yn yr ugeinfed ganrif, yn gwerthu am llawer mwy o arian na gwlân. Heddiw, cynhyrchu ŵyn tewion yw prif incwm llawer o ffermydd Cymru. Yn 2013 roedd allforion cig oen Cymreig werth £154.7 miliwn. Y cwsmer tramor mwyaf yw Ffrainc, ac yna’r Almaen. Roedd 9.74 miliwn o ddefaid ac ŵyn yng Nghymru yn 2014.