Hafan y Blog

Dyddiadur Kate: Anturiaethau’r peiriant dyrnu

Elen Phillips, 9 Mawrth 2015

A ninnau bron ar derfyn 3 mis cyntaf @DyddiadurKate, mae un ‘cymeriad’ wedi chwarae rhan blaenllaw iawn yng nghofnodion yr wythnosau diwethaf sy’n haeddu bach o sylw ar y blog – y peiriant dyrnu. Rhwng Ionawr a Mawrth 1915, bu’r peiriant hwn ar grwydr i sawl ffermdy gerllaw cartref Kate a’i theulu. Ynghyd â mynychu’r capel, corddi a chrasu, hynt a helynt y peiriant dyrnu yw un o brif weithgarwch y dyddiadur hyd yma. Ond diolch amdano. Arferion amaethyddol fel hyn sy’n gwreiddio’r dyddiadur o fewn cymuned a chyfnod.

18 Ionawr – Yr injan ddyrnu yn Llwyniolyn

23 Ionawr – Ellis yn Tynybryn gyda’r peiriant dyrnu

30 Ionawr – Y peiriant dyrnu yn Penycefn

2 Mawrth – Yr injan ddyrnu yn y Derwgoed

4 Mawrth – Ellis yn mynd i Fedwarian at y peiriant dyrnu

Yma yn Sain Ffagan, mae sawl un mwy cymwys na fi i drafod peiriannau dyrnu. Un o fy mhrif ddiddordebau i fel curadur yw hanes prosesau casglu – y dulliau hynny a ddefnyddwyd gan Iorwerth Peate, Ffransis Payne, Minwel Tibbott ac eraill i roi hanes Cymru ar gof a chadw. Mewn blog blaenorol, soniais am waith arloesol yr Amgueddfa ym maes cofnodi hanes llafar – bu Kate Rowlands ei hun yn destun sawl cyfweliad. Dull poblogaidd arall a fabwysiadwyd gan yr Amgueddfa i gasglu data oedd holiaduron a llyfrau ateb. Roedd y rhain yn cael eu gyrru at unigolion o fewn plwyfi yng Nghymru yn gofyn am wybodaeth benodol ynglyn ag arferion eu milltir sgwâr. Mae casgliad helaeth ohonynt yma yn trafod amrywiol bynciau – meddygyniaethau gwerin, arferion tymhorol ac ati. I’r un perwyl, mae gennym hefyd bentwr o lythyrau ac ysgrifau.

Tra’n chwilota am ddeunydd yn yr archif o ardal y Sarnau, Cefnddwysarn a bro @DyddiadurKate, fe ddes i o hyd i ysgrif gan Mary Winifred Jones o’r Hendre, Cwm Main. Bydd mwy ar y blog cyn hir am y teulu hwn – mae tad a brodyr Mary yn cael eu crybwyll sawl gwaith yn y dyddiadur. Ysgrif yw hon sy’n disgrifio ffotograff o ddiwrnod dyrnu ar fferm Pentre Tai’n y Cwm, Cefnddwysarn. Gallwch weld y llun a’r ysgrif fan hyn. Tybed os mai hwn yw’r peiriant dyrnu y mae Kate yn sôn amdano?

Ar fuarth fferm Seimon Davies Pentre Tai yn Cwm Cefnddwysarn y tynwyd y darlun hwn. Perchenog y peiriant oedd Morgan Hughes Bryniau Cynlas ar ol hyny. Bu y peiriant yn gyfrwyn i roi gwaith i amryw amaethwyr bychain yn ystod y gaeaf pan oedd ychydig yn dod i fewn am fod ganddo ychwaneg nag un peiriant yr oedd yn rhaid cael dau ddyn i ganlyn pob un sef y gyrwr ar porthwr…

Yr hyn sy’n dod yn amlwg wrth ddarllen atgofion Mary Jones, ac yn wir dyddiadur Kate Rowlands, yw pwysigrwydd cydweithio o fewn cymuned amaethyddol – cymdogion a ffrindiau, hen ac ifanc, yn cynorthwyo’i gilydd.

 

 

 

Elen Phillips

Prif Guradur Hanes Cyfoes a Chymunedol
Gweld Proffil
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.