Wyna – gwir pob gair Bernice Parker, 10 Mawrth 2015 · Ar hyn o bryd mae gennym tua 100 o ddefaid magu felly rydyn ni’n disgwyl dros 150 o wyn.· Mae’n defaid ni’n ddwyflwydd oed yn wyna am y tro cyntaf.· Mae dafad yn feichiog am 5 mis: maen nhw’n dod i’w tymor ym mis Medi rydyn ni’n rhoi’r hyrddod mewn gyda’r defaid ar 1 Hydref bydd cyfnod wyna yn cychwyn ddechrau mis Mawrth ni sy’n dewis y drefn yma er mwyn cael wyn i’w gweld yn y caeau dros y Pasg. · Mae’r defaid beichiog yn dod mewn o’r caeau’n syth ar ôl y Nadolig er mwyn cael lloches, bwyd a gofal ychwanegol. Mae hyn yn bwysig ar gyfer datblygiad yr wyn.· Maen nhw’n cael eu sganio yn y flwyddyn newydd er mwyn eu gwahanu i ddau grwp: y rhai sy’n disgwyl oen sengl a’r lleill sy’n disgwyl gefeilliaid neu dripledi. · Pen a choesau blaen yn arwain ydy’r ffordd arferol i oen gael ei eni. Os felly, mae’r defaid fel arfer yn gallu ymdopi heb unrhyw gymorth. Ond weithiau bydd angen ychydig o help os yw’r oen yn fawr, neu’n dod allan am yn ôl.· Wedi bwrw, bydd y ddafad a’i hwyn yn mynd mewn i gorlan ar wahân: er mwyn sefydlu perthynas famol i atal defaid heb eu bwrw rhag ‘mabwysiadu/dwyn’ oen dafad arall. · Maen nhw’n aros ar wahân am 1–2 diwrnod.· Mae defaid a’u hwyn sy’n iach yn cael mynd allan i’r caeau ar ôl 3–5 diwrnod – os yw’r tywydd yn caniatáu.· Mae’n beth arferol i weld rhywfaint o waed a slwtsh o gwmpas pen ôl dafad sydd wedi bwrw yn ddiweddar.· Mae’n beth arferol i wyn newydd gysgu llawer – rhyw 12–16 awr y dydd.· Bydd y rhan fwyaf o’r wyn benywaidd yn aros gyda ni neu’n cael eu gwerthu fel defaid pedigri. Bydd yr wyn gwrywaidd yn mynd i’r lladd-dy am eu cig, gyda chwpl o’r goreuon yn cael eu gwerthu fel hyrddod.· Mae’r cig oen ar eich plât yn 4–12 mis oed.