sut i wybod bod oen ar y ffordd Bernice Parker, 18 Mawrth 2015 Helo na Sgrinwynis - dyma'r ateb i'r cwestiwn fwya poblogaidd o'r sied wyna eleni. 'Sut allwch chi ddweud bod dafad ar fin rhoi genedigaeth?' Dyma rai o’r prif arwyddion: Cuddio yn y gornel - yn y gwyllt, byddai hyn er mwyn osgoi ysglyfaethwyr Llyfu gweflau – paratoi i lanhau’r oen wedi iddo gael ei eni Aflonydd – codi a gorwedd bob yn ail Pawennu’r llawr – creu ‘nyth’ i’r oen gael ei eni ynddo Corff i’w weld yn tynhau yn rheolaidd Llysnafedd, bag dŵr neu bâr o draed i’w gweld yn dod allan o’r ddafad! A gan bod fi mor hael - dyma llun o'r cwads cyntaf erioed Sain Ffagan. Ganwyd neithiwr... Ffrwd byw o’r sied Ŵyna