sut i wybod bod oen ar y ffordd
18 Mawrth 2015
,Helo na Sgrinwynis - dyma'r ateb i'r cwestiwn fwya poblogaidd o'r sied wyna eleni.
'Sut allwch chi ddweud bod dafad ar fin rhoi genedigaeth?'
Dyma rai o’r prif arwyddion:
- Cuddio yn y gornel - yn y gwyllt, byddai hyn er mwyn osgoi ysglyfaethwyr
- Llyfu gweflau – paratoi i lanhau’r oen wedi iddo gael ei eni
- Aflonydd – codi a gorwedd bob yn ail
- Pawennu’r llawr – creu ‘nyth’ i’r oen gael ei eni ynddo
- Corff i’w weld yn tynhau yn rheolaidd
- Llysnafedd, bag dŵr neu bâr o draed i’w gweld yn dod allan o’r ddafad!
A gan bod fi mor hael - dyma llun o'r cwads cyntaf erioed Sain Ffagan. Ganwyd neithiwr...
sylw - (3)
Hi Nessa
Labour in sheep can take anything from 30 minutes to many hours. We can't offer any individual advice via these pages - you should consult a livestock or veterinary professional if you have concerns about the welfare of your animal
Lucy is our hair sheep ewe. She’s been showing several of these signs. We’ve been expecting her to lamb for almost 6 weeks now. Obviously we were way off on her due date! Unexpected pregnancy for her and 5 others…ram got through fence. Anyway, thank you again.