@DyddiadurKate - Carcharorion Rhyfel
11 Mai 2015
,Yn dilyn ymlaen o flog Elen am Wersyll Carcharorion Frongoch, dw i am dynnu eich sylw at y gwrthrychau sydd gennym yn ein casgliadau sy’n gysylltiedig â charcharorion rhyfel neu gwersylloedd rhyfel yn ystod y ddau ryfel byd.
Am gyfod byr bu’r peilot Arthur Wellesley Rees Evans yn garcharor rhyfel pan saethwyd ei awyren i lawr tra ar ei ffordd i fomio Cologne yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae ei gasgliad gennym yn yr archif yn Sain Ffagan ac yn cynnwys dogfennau megis canllawiau am gyfathrebu â charcharorion rhyfel sydd wedi'u caethiwo dramor, canllawiau'r Pwyllgor Canolog Carcharorion Rhyfel ynghylch anfon parseli bwyd i garcharorion rhyfel yn yr Almaen, yn ogystal â cherdyn post o Wersyll Carcharorion Rhyfel Limburg yn hysbysu ei deulu ei fod yn garcharor rhyfel.
Mae enghreifftiau gennym hefyd o wrthrychau a wnaed gan garcharorion rhyfel Almaeneg a Thwrcaidd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'r rhain yn cynnwys set ysmygu a wnaed gan garcharor Almaeneg mewn gwersyll carcharorion rhyfel ym Mhenarth, a model gleinwaith o neidr gyda chameleon yn ei geg gyda'r geiriau 'TURKISH PRISONER 1917'.
Mae pawb yn gyfarwydd â’r ddelwedd o garcharorion rhyfel Prydeinig yn brwydro ac yn dianc o wersylloedd y gelyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd mewn storïau anhygoel megis ‘The Great Escape’ neu ‘Pum Cynnig i Gymro’.
Mae stori
yn debyg iawn i’r storïau hyn. Bu’n aelod o’r RAF, a chymrodd rhan mewn nifer o chyrchfaoedd bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Saethwyd ei awyren i lawr yn Mai 1943, a chafodd ei ddal gan yr Almaenwyr tra’n lloches gyda theulu Ffleminaidd. Danfonwyd Cecil i wersyll carcharorion rhyfel Almaeneg, Stalag Luft 3, ond nid oedd yn bwriadu treulio gweddill y rhyfel y tu ôl i’r weiren bigog. Felly, mi ddihangodd
cyn cael ei ddal eto gan yr Almaenwyr a’i ddanfon yn ôl i’r gwersyll. Rhoddwyd ei gasgliad o ddogfennau i’r Amgueddfa ddwy flynedd yn ôl, ac mae’n gasgliad hynod ddiddorol. Mae’n cynnwys cynlluniau i ddianc , mapiau hancesi papur , trwyddedau ffug gyda’r stamp Natsïaidd , a hyd yn oed ambell i Reichsmarks!